Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y DU
Ym mis Mawrth eleni, roedd dros 100,000 o bobl yn ceisio lloches yn y DU. Roedd 30% o’r bobl hyn yn byw mewn gwestai, gyda phob un wedi’u gwahardd rhag gweithio ac yn derbyn £7 y dydd i dalu am anghenion sylfaenol. Mae’r DU wedi cael dros 3,000 o geisiadau gan blant yn teithio ar eu pen eu hunain dros y flwyddyn ddiwethaf. Ers 2023, mae 74% wedi cael lloches ac 83 wedi cael caniatâd tymor byr i aros am ddwy flynedd a hanner.
Y mis hwn, cyrhaeddodd 13 o gychod bach y DU gyda 725 o bobl yn ceisio lloches (Llywodraeth y DU, Gorffennaf 2025). Ym mis Hydref y llynedd yn unig, cafwyd 52 o farwolaethau y gellid bod wedi’u hatal (gyda llawer mwy i ddilyn) wrth groesi Môr Udd (Newyddion y BBC, Hydref 2024), sydd, yn ôl Arsyllfa Ymfudo Prifysgol Rhydychen, wedi “dod yn fwy angheuol dros amser”.
Dim ond 9% o’r mewnfudwyr ledled Ewrop sy’n dod i’r DU, ac mae’r DU yn bumed o ran y gyfran o’r boblogaeth (y tu ôl i’r Almaen, Sbaen, yr Eidal a Ffrainc) ac yn 17eg o ran y boblogaeth fesul pen (Llywodraeth y DU, Mehefin 2025). Yn y cyfamser, mae 74% o ffoaduriaid y byd yn byw mewn gwledydd sy’n datblygu sydd yn gyfagos i’w gwledydd eu hunain (Cyngor Ffoaduriaid, 2025) ac mae llawer o bobl yn parhau i fyw yn eu gwledydd eu hunain, lle mae eu bywydau a bywydau eu hanwyliaid mewn perygl.
Teimladau gwrth-fudwyr a gwahaniaethu
Fodd bynnag, ers 2010 mae llywodraeth y DU wedi mynd ati i greu “amgylchedd mewnfudo gelyniaethus” a arweiniwyd gan Theresa May, sydd yn ymarferol wedi golygu cau llwybrau i weithwyr tra medrus, capio fisâu Haen dau, tynhau meini prawf cymhwysedd, ei gwneud yn anoddach i aduno teuluoedd, codi gofynion iaith, trothwyon incwm, lleihau hawliau gweithio a chodi gofynion setlo (Consterdine, 2018).
Yn bwysicach fyth o bosibl, mae wedi creu diwylliant y mae UKIP ac yn fwy diweddar plaid Reform wedi manteisio arno ynghylch teimladau a gwahaniaethu yn erbyn mudwyr. Ymddengys nad yw’r llywodraeth Lafur bresennol dan Kier Starmer am newid y naratif hwn chwaith, gyda Phrydain yn dod yn “ynys o ddieithriaid” (Llywodraeth y DU, Mai 2025).
Cymdeithas sifil yn camu i’r adwy
Mae methiant llunwyr polisi i gynnig cefnogaeth ddigonol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn golygu bod cymdeithas sifil, elusennau a sefydliadau trydydd sector yn darparu mwy a mwy o gefnogaeth o ran lles ac eiriolaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, sydd weithiau’n achub bywydau. Mae hyn yn cynnwys cymorth tai, bwyd, dillad, cymorth gyda chludiant, cymorth cyfreithiol, dosbarthiadau iaith, addysg, hyfforddiant a datblygu sgiliau, eiriolaeth, dylanwadu ar bolisïau a chymorth iechyd meddwl.
Nid yw’r gymdeithas sifil sy’n darparu’r gefnogaeth yn gweithio mewn gwactod gwleidyddol, ac mae’r amgylchedd polisi’n dylanwadu ar faint a siâp y gweithgareddau. Gyda hyn mewn golwg, gofynnwn a yw datganoli yng Nghymru a’r Alban yn effeithio ar y gwaith pwysig hwn.
Naratif gwleidyddol gwahanol
Er bod mewnfudo’n parhau’n gyfrifoldeb llywodraeth y DU, mae llawer o feysydd polisi cymdeithasol sy’n effeithio ar geiswyr lloches wedi’u datganoli, yn fwyaf nodedig trafnidiaeth, tai ac iechyd. Er gwaethaf cyfyngiadau cyfansoddiadol a pholisi, fel Dim Hawl i Gyllid Cyhoeddus sy’n rhwystro mynediad at wasanaethau tai a digartrefedd yr awdurdodau lleol, credyd cynhwysol a budd-dal plant, mae llywodraethau Cymru a’r Alban yn hyrwyddo naratif gwleidyddol nad yw’n elyniaethus.
Mae llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi cefnogi Cenedl Noddfa, lle “ble bynnag yng Nghymru y bydd pobl sy’n ceisio noddfa yn mynd, bydd croeso, dealltwriaeth a dathliad o’u cyfraniad unigryw i fywyd cyfoethog Cymru” (Cenedl Noddfa, 2025). Ac yn yr Alban, lle mae iechyd, tai a thrafnidiaeth hefyd wedi’u datganoli, mae Strategaeth Integreiddio Ffoaduriaid Newydd yr Alban dan lywodraeth yr SNP “yn nodi gweledigaeth o Alban groesawgar lle mae pobl yn gallu ailadeiladu eu bywydau o’r diwrnod maen nhw’n cyrraedd.” (Llywodraeth yr Alban, 2018).
Prosiect Newydd
Yn y cyd-destun hwn, mae’n hanfodol deall rôl gyfoes sefydliadau cymdeithas sifil wrth eiriol dros hawliau a darpariaeth lles i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Hefyd, ystyried i ba raddau y gall polisi datganoledig wneud gwahaniaeth i fywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yn yr Alban a Chymru a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi? Dyma’r cwestiwn rydyn ni’n ei drafod ar hyn o bryd drwy brosiect WISERD a ariennir gan UKRI ESRC ‘Llywodraethiant datganoledig, cymdeithas sifil a lles i ffoaduriaid a cheiswyr lloches‘.
Rydyn ni am ddarparu gwrth-naratif i’r teimlad gwrth-fewnfudo ledled y DU sy’n targedu aelodau mwyaf bregus cymdeithas trwy wahaniaethu ac iaith casineb; sy’n aml yn cael cefnogaeth polisi a lleisiau gwleidyddol, a thynnu sylw at waith gwerthfawr sefydliadau cymdeithas sifil sy’n cefnogi ac yn eiriol dros ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng nghyd-destunau polisi gwahanol yr Alban, Cymru a Lloegr, a’r heriau sy’n eu hwynebu.
Cynhelir y prosiect rhwng mis Ionawr 2025 a mis Medi 2026, a bydd yn cynnal cyfweliadau manwl gyda sefydliadau cymdeithas sifil yng Nghymru, yr Alban a Lloegr.
Mae Sioned Pearce yn Ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n ymchwilio i ddatganoli, lles, gwaith a chymdeithas sifil.
Mae Nivedita Narayan yn Gymrawd Ymchwil yn WISERD, Prifysgol Caerdydd sy’n ymchwilio i gefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cymdeithas sifil a datganoli.
Credyd delwedd: shironosov trwy iStock.