
Fel rhan o’n prosiect a ariennir gan Academi’r Gwyddorau Meddygol ar gymdeithas sifil ac ieithoedd brodorol yn India, rydyn ni wedi cynnal gweithdai ymhlith cymunedau llwythol brodorol Rajasthan a Kerala, ac wedi trafod y problemau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu, gan gynnwys eu diwylliant, eu hiaith a’u bywyd economaidd-gymdeithasol beunyddiol.
Fel cyd-destun, mae Rajasthan yn gartref i sawl cymuned lwythol frodorol, ac mae ganddi’r 6ed poblogaeth lwythol fwyaf yn India (13.5% o gyfanswm y boblogaeth). Mae prif gymunedau llwythol y dalaith yn cynnwys y Bhil, Mina, Garasia, Damor, Kathodi, a Sahariyas.
Y Bhiliaid
Rydyn ni wedi bod yn archwilio amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol y cymunedau Bhil. Mae’r Bhiliaid, neu’r gwŷr bwa yn gyffredin, yn un o’r cymunedau ethnig brodorol mwyaf yn India. Yn Rajasthan, maen nhw’n byw yn bennaf yn hanner deheuol y dalaith. Maen nhw’n byw yn y coedwigoedd a’r ucheldiroedd, a’u prif ffynonellau o fywoliaeth yw amaethu mudol, hela, a chasglu cynnyrch coedwigoedd. Yn yr oes sydd ohoni, mae llawer o’r Bhiliaid wedi symud i ddinasoedd cyfagos i weithio fel gweithwyr mudol cyflog dyddiol.
Siaradodd cyfranogwyr ein gweithdy am eu hiaith gyffredin, Bhili. Mae’n iaith lafar; nid oes ganddi unrhyw sgript ysgrifenedig. Mae gwybodaeth frodorol, a chwedlau a straeon, yn cael eu trosglwyddo ar lafar o un genhedlaeth i’r llall. Fel y noda’r Athro Ayesha Kidwai yn ddigon addas, “Mae ieithoedd llwythol yn drysorfa o wybodaeth am fflora, ffawna a phlanhigion meddyginiaethol rhanbarth. Fel arfer, mae’r wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. Fodd bynnag, pan mae iaith yn dirywio, mae’r system wybodaeth honno’n diflannu’n llwyr. Drwy golli iaith, collir popeth mewn diwylliant a chollir undod; collir Dyn ei hun”.
Newid rhwng cenedlaethau
Mynegodd cyfranogwyr y gweithdy bryder bod eu hiaith yn fwyfwy bregus yn sgîl newid rhwng cenedlaethau. Mae llawer o Bhiliaid iau yn symud i’r dinasoedd ar gyfer addysg a swyddi, a dydyn nhw ddim yn defnyddio Bhili. Yn hytrach, maen nhw’n ffafrio’r ieithoedd dominyddol a dyheadol – Hindi a/neu Saesneg. Mae’r dirywiad yn y defnydd o’r iaith frodorol yn cael ei gymhlethu ar gyfer llawer o Bhiliaid a fudodd i’r dinasoedd ac sy’n anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Saesneg, lle nad ydyn nhw’n cael unrhyw gyfle i ddysgu Bhili.
Siaradodd cyfranogwyr ein gweithdy hefyd am y ffaith nad yw pobl ifanc Bhil eisiau defnyddio enwau Bhil traddodiadol fel Virji, Hurji, a Mavji. Iddyn nhw, mae ’na deimlad o gywilydd — maen nhw’n meddwl bod yr enwau hyn yn cynrychioli cyntefigrwydd. Yn hytrach, maen nhw’n defnyddio enwau Hindŵaidd, neu enwau Beiblaidd (i’r rhai sy’n Gristnogol). Un neges allweddol sy’n deillio o hyn yw bod archwaeth pobl ifanc Bhil am foderniaeth yn cael effaith negyddol sylweddol ar yr iaith Bhili.
Siaradodd cyfranogwyr hefyd am esgeulustod a difaterwch y dalaith yn cyfrannu at ddirywiad eu hiaith. Nid yw’r llywodraeth wedi rhoi cyfleoedd i Bhiliaid ifanc ddysgu eu hiaith ac nid oes athrofeydd iaith. Gan nad yw Bhili yn iaith ysgrifenedig, nid yw’n cael ei haddysgu mewn ysgolion. Yn lle hynny, mae disgyblion yn dysgu Hindi, Sansgrit, Wrdw neu Rajasthani. Yn bwysig, gan fod Bhili yn iaith anrhestredig, nid oes ganddi statws swyddogol – sy’n cynyddu’r perygl iddi.
Er gwaethaf yr holl heriau hyn, mae Bhili yn dal i gael ei siarad gan nifer fawr o bobl yn Rajasthan, Madhya Pradesh, Gujarat a Maharastra. Nid yw mor fregus ag ieithoedd brodorol yr Irula o Kerala, ond eto mae’n rhaid i’r dalaith a chymdeithas sifil gymryd camau angenrheidiol i’w hatal rhag marw.
Hanes diwylliannol cyfoethog ac amrywiol
Trafododd cyfranogwyr y gweithdy sut – er eu bod nhw’n dilyn arferion animistaidd ac yn addoli sawl duwdod lleol – y dylanwadir yn sylweddol ar eu bywyd crefyddol gan Hindŵaeth brif ffrwd. Maen nhw hefyd yn addoli duwiau a duwiesau Hindŵaidd fel Ganeshji, Shivji, Durgaji ac yn dathlu gwyliau fel Gavari. Dyma un o wyliau mwyaf poblogaidd y Bhiliaid yn ne Rajasthan. Mae’n ŵyl flynyddol sy’n seiliedig ar chwedlau a dawnsio gwerin a berfformir gan ddynion sy’n para am 40 diwrnod yn ystod y tymor gwlyb.
Er bod Gavari yn cael ei hystyried yn agwedd hanfodol ar hunaniaeth ddiwylliannol Bhil, soniodd nifer o gyfranogwyr y gweithdy am densiynau gyda bywyd modern. Gwnaethant feirniadu hyd yr ŵyl. Er mwyn cynnal y traddodiad hwn, nid yw llawer o aelodau gwrywaidd o’r gymuned Bhil yn dychwelyd i’r pentref am fisoedd ac, yn y broses, maen nhw’n colli eu swyddi, sy’n eu cadw mewn cylch dieflig o dlodi a dyled.
Siaradodd cyfranogwyr y gweithdy hefyd am sut, mewn dros 70 mlynedd o annibyniaeth India, nad yw bywyd cymdeithasol ac economaidd y gymuned Bhil wedi gwella llawer. Mae esgeulustod y dalaith (waeth pa blaid wleidyddol sy’n dod i rym ac yn ffurfio’r llywodraeth) wedi bod yn ffactor mawr. Mynegwyd amheuon ynghylch a all pleidiau gwleidyddol prif ffrwd gynrychioli buddiannau’r Bhiliaid. Iddyn nhw, dim ond addewidion ffug mae’r pleidiau hyn yn eu gwneud a, phan mae’r etholiad drosodd, maen nhw’n diflannu.
Mewn ymateb, nododd llawer o gyfranogwyr y gweithdy mai dim ond Bhiliaid all ymladd dros eu hawliau eu hunain, a gwnaethant nodi enghraifft y Bharat Adivasi Party (BAP), a sefydlwyd gan arweinydd Bhil ifanc flwyddyn cyn etholiadau 2024. Mae’r blaid wedi ennill tair o seddi cynulliad deddfwriaethol y dalaith ac un sedd yn nhŷ isaf Senedd India. Mae’r BAP wedi bod yn eirioli dros hawliau ac urddas Bhil. Roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr y gweithdy yn gyffrous am y blaid hon ac yn credu’n gryf mai dim ond pleidiau gwleidyddol a sefydliadau cymdeithas sifil dan arweiniad Bhiliaid ifanc all wella amodau economaidd-gymdeithasol y Bhiliaid ac adfer eu hanes diwylliannol cyfoethog ac amrywiol.
A new book based on our research will be published in the new year:
“Indigeneity, Culture and Citizenship in Today’s India: New Perspectives on the Bhil and Irula Peoples” by Sarbeswar Sahoo, Paul Chaney, Reenu Punnoose and Muhammed Haneefa
Cydnabyddwn a diolchwn am gyllid ymchwil gan Academi’r Gwyddorau Meddygol (Dyfarniad Rhif. NGR1\1042). Mae’r tîm ymchwil yn cynnwys yr Athro Sarbeswar Sahoo (Sefydliad Technoleg India, Delhi), Paul Chaney (Athro Emeritws, WISERD Caerdydd), Dr Reenu Punnoose (Sefydliad Technoleg India, Palakkad) a Dr Haneefa Muhammed (Sefydliad Technoleg India, Jammu).