Ar 15 Ebrill, daeth cydweithwyr o WISERD ac Ysgol Busnes Caerdydd at ei gilydd yn sbarc | spark i lansio cyhoeddiad newydd cyffrous i ysgolheigion a myfyrwyr ym meysydd cymdeithaseg, gwyddor wleidyddol, astudiaethau cyflogaeth a busnes a rheoli.
Mae Handbook on the Sociology of Work yn cyflwyno trosolwg o ymchwil a safbwyntiau cyfredol ym maes cymdeithaseg gwaith. Mae’r cyfranwyr yn bwrw golwg ar y ffordd mae trefn a phrofiad o weithio yn cael eu llunio gan ddatblygiad cyfalafiaeth fyd-eang, tueddiadau yn yr economi wleidyddol a datblygiadau technolegol cyflym.
Mae’r llawlyfr yn ystyried gwahanol fathau o waith a’r profiadau ohono – gwaith ffactori, gwaith anffurfiol ac amaethyddol, a datblygiadau mwy diweddar megis gwaith ar blatfformau, gweithio ar y cyd, gwaith crefft newydd, a llafur emosiynol.
Mae’r cyfranwyr hefyd yn sôn am anghydraddoldebau cymdeithasol yn y gweithle, gan ddadansoddi’r berthynas rhwng dosbarth cymdeithasol, hunaniaeth, hil, rhywedd ac oedran, ac maen nhw’n mynd i’r afael â materion polisi pwysig, megis yr argyfwng hinsawdd, digideiddio a deallusrwydd artiffisial, caethwasiaeth fodern a dyfodol gwaith. Mae pob pennod yn gwerthuso’n feirniadol gysyniadau a damcaniaethau cymdeithasol craidd tra’u bod hefyd yn nodi agendâu ymchwil posibl y dyfodol.
Roedd rhai o gyd-awduron y llyfr ymhlith y gwesteion yn y lansiad, gan gynnwys Cyd-gyfarwyddwr WISERD ac Athro Emerita Jean Jenkins o Brifysgol Caerdydd, Dr Cara Reed, Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Trefniadaethol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Dr Rachel Wilde, Athro Cyswllt mewn Addysg, Ymarfer a Chymdeithas yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
Ymunodd rhai o olygyddion y llyfr â’r lansiad hefyd, gan gynnwys Ödül Bozkurt, Athro mewn Gwaith a Chyflogaeth yn Ysgol Busnes Prifysgol Sussex a Jonathan Preminger, Uwch-ddarlithydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Roedd Hannah Ross, golygydd cynorthwyol o Edward Elgar Publishing hefyd yn bresennol, gyda sawl copi o’r llyfr newydd ar gael i westeion bori drosto yn ystod y digwyddiad.
Cyflwynwyd y digwyddiad gan Marco Hauptmeier, Athro Gwaith a Chyflogaeth a Rhag Ddeon Astudiaethau Doethurol Ysgol Busnes Caerdydd, gyflwyno’r lansiad a phwysleisio pwysigrwydd y llawlyfr newydd fel adnodd hanfodol i academyddion ar draws ystod o ddisgyblaethau.
Yna rhoddodd Athro Emeritws Prifysgol Caerdydd, Mike Reed, adolygiad manwl o’r llyfr lle edrychodd ar bob un o’r penodau, cyn sesiwn holi ac ateb, a thrafodaeth a oedd yn cynnwys aelodau o’r gynulleidfa.
Dyma a ddywedodd Dr Jonathan Preminger, golygydd y llyfr: “Rwy’n falch iawn o allu dathlu cyhoeddi’r gyfrol hon! Mae’r fath gasgliad o benodau gwych yn haeddu cael ei ddathlu. Diolch yn fawr iawn i WISERD a MEO (Adran Rheolaeth, Cyflogaeth a Threfniadaeth Ysgol Busnes Caerdydd) am gefnogi hyn.”
Ewch i wefan Edward Elgar Publishing i gael rhagor o wybodaeth a phrynu’r Handbook on the Sociology of Work.
Yn y llun (chwith i’r dde): Dr. Cara Reed (awdur pennod), yr Athro Marco Hauptmeier, Dr. Rachel Wilde (awdur pennod), Dr. Jonathan Preminger (golygydd), yr Athro Mike Reed (adolygydd), yr Athro Emerita Jean Jenkins (awdur pennod), yr Athro Ödül Bozkurt (golygydd).

