Y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn y DU yn ystod y cyfnod 1998-2013 : Beth yw rôl y sector cyhoeddus?

Defnyddiwyd yr Arolwg o’r Llafurlu Chwarterol i gymharu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat rhwng 1998 a 2013 ac i nodi cyfraniad y dyraniad cyflogaeth sectoraidd i’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn gyffredinol. Roedd yr astudiaeth yn ymdrin â chyfnod o dwf mewn cyflogaeth a dirwasgiad dwfn yn ogystal â thwf cymharol yn y sector cyhoeddus ac yna gyni. Mae yna resymau da dros ddisgwyl bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn is yn y sector cyhoeddus a dyna a ganfuon ni mewn gwirionedd. Y bylchau cyflog rhwng y rhywiau o fewn sectorau sy’n sail i’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn gyffredinol ac nid yw’r dyraniadau a’r tueddiadau yn y sectorau yn debyg ym mhob sector. Yn dilyn culhau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y ddau sector yn y tymor hir, gan adlewyrchu’n bennaf welliannau cymharol yn y nodweddion hynny sy’n gysylltiedig â chynhyrchiant menywod, yn 2010 mae’r culhau hwn yn arafu ym mhob sector ac yn gyffredinol.