Yn rhan o’r astudiaeth WISERD ‘Meysydd ehangu dinesig newydd: pobl, anifeiliaid a Deallusrwydd Artiffisial (AI)’, fe gyflwynon ni ymchwil newydd mewn digwyddiad WHEB ym Mrwsel y mis diwethaf. Mae’r ymchwil yn nodi barn a phryderon sefydliadau cymdeithas ddinesig (CSOau) am Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) yn yr UE.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn deddfu er mwyn cydlynu’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer AI ac mae goblygiadau posibl y dechnoleg newydd yn hynod. Er enghraifft, mae un cyfrif wedi nodi bod AI yn ‘cyfrannu at drawsnewidiad cymdeithas sy’n digwydd 10 gwaith yn gyflymach a 300 gwaith yn fwy… na’r Chwyldro Diwydiannol’.[i]
Mynd i’r afael â’r bwlch
Mae’r Ddeddf Deallusrwydd Artiffisial (AIA) wedi bod yn bwnc llosg, ac yn ddarn o ddeddfwriaeth gynhennus. Ychydig wythnosau yn ôl, cytunodd negodwyr ar fargen gychwynnol a fydd yn golygu bod deddfwriaeth o 2025 ymlaen yn cynnwys AI mewn systemau megis adnabod wynebau, gwyliadwriaeth, sgyrsfotiau ac yn y blaen. Nododd ‘Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial’ y CE yn 2018 mai “ecosystem rhagoriaeth ac ymddiriedaeth Ewropeaidd” oedd y weledigaeth. Fodd bynnag, mae llawer o ddatblygiad y Ddeddf AI wedi bod yn ymwneud â rôl a gweithrediadau’r llywodraeth, asiantaethau’r wladwriaeth a chorfforaethau. Yn unol â hynny, mae ein gwaith yn mynd i’r afael â bwlch trwy archwilio safbwyntiau am AI a chymdeithas sifil.
Rôl cymdeithas sifil ac effaith AI
Cynhaliwyd dadansoddiad disgwrs o 400 o bapurau sefyllfa a gyflwynwyd gan y llywodraeth, asiantaethau cyhoeddus, sefydliadau anllywodraethol a busnesau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus agored ar Bapur Gwyn Deallusrwydd Artiffisial y Comisiwn Ewropeaidd. Ro’n ni’n awyddus archwilio’r hyn a ddywedon nhw am Gymdeithas Sifil, ac effaith AI.
Nododd ein dadansoddiad sawl thema allweddol. Yn gyntaf i gyd, rôl hanfodol a gwarchodol cymdeithas sifil. Yn fras, mae angen mewnbwn cymdeithas sifil ar gyfer goruchwyliaeth ddemocrataidd a rheoliadol deallusrwydd artiffisial, ac atebolrwydd amdano. Er enghraifft, nododd un ymatebwr, er mwyn “sicrhau goruchwyliaeth ddemocrataidd a systemau atebolrwydd… mae’n rhaid i’r UE integreiddio dulliau ar gyfer goruchwyliaeth ac ymgynghoriad gwirioneddol, gyda sefydliadau cymdeithas sifil a chymunedau’n fwyaf tebygol o brofi effeithiau niweidiol… Mae’n rhaid sicrhau systemau atebolrwydd hygyrch hefyd…”
Thema fawr arall oedd rôl cymdeithas sifil mewn diogelu hawliau dynol sylfaenol. Fel roedd yr ymateb yn dadlau, dylai fod… “sianelau cyfathrebu effeithiol gyda grwpiau ac ymchwilwyr cymdeithas sifil lleol a dylent gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Dynol drwy gylch bywyd eu systemau AI”.
O ran hawliau, roedd thema graidd arall yn yr ymatebion yn amlygu’r angen i gymdeithas sifil chwarae rhan allweddol o ran hyrwyddo cyfle cyfartal. Trafodwyd cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn gyson, ac yn enwedig rôl cymdeithas sifil o ran cymhwyso elfennau cydraddoldeb rhwng y rhywiau i bolisïau AI (yn unol â gofynion Cytundeb Amsterdam), yn ogystal â defnyddio cyllidebu rhywedd a mesurau cadarn er mwyn mynd i’r afael ag AI a thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod. Roedd anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithluoedd sy’n datblygu technolegau AI ac yn eu rheoleiddio yn bryder pellach.
Thema graidd arall yn yr ymatebion oedd ymddiriedaeth. Hynny yw bod cyfranogiad cymdeithas sifil o ran defnyddio AI a’i reoleiddio yn hanfodol i feithrin ymddiriedaeth. Mae cyfranogiad cymdeithas sifil yn hanfodol i gyfreithlondeb rheoliadol, sy’n seiliedig ar atebolrwydd a thryloywder. Er enghraifft, nododd un ymatebwr “[dylai] adolygiad o systemau deallus [gynnwys] sylwadau gan bartïon â diddordeb a grwpiau mewn cymdeithas sifil ac, i’r graddau mwyaf posibl… i ddarparu tryloywder… [mae hyn yn hanfodol i…] greu ymddiriedaeth a rheolaeth i ddinasyddion Ewrop…”
Goblygiadau canfyddiadau’r astudiaeth?
Yn gysyniadol, mae’r canfyddiadau’n nodi bod angen inni ystyried y cysyniad o “gymdeithas sifil” i ymgorffori deallusrwydd annynol a’i effaith ar fywyd. Mae dau faes yn sefyll allan yn y dadansoddiad: 1. dylanwad cynyddol AI ar rôl ddemocrataidd cymdeithas sifil a dal llywodraethau a chorfforaethau i gyfrif, a 2. ei fygythiad posibl i hawliau a rhyddid sylfaenol. Mae’r ymatebion ynghylch cymdeithas sifil a ddadansoddwyd yn ein hymchwil yn nodi’n glir bod fframwaith rheoliadol yr UE yn her wirioneddol. Ymhellach i hynny, mae cryn dipyn yn y fantol ac mae angen diogelu hawliau dynol yn wyneb y newid technolegol hwn.
Mae’n gwaith yn nodi bod safbwyntiau cymdeithas sifil yn ymwneud â newid perthnasoedd pŵer – yn enwedig rhwng dinasyddion a chymdeithas sifil ar un llaw, a’r wladwriaeth a chorfforaethau ar y llall. Mae’r ymatebion yn amlwg ac yn nodi sut mae hyn yn ymwneud yn fawr ag effaith AI ar ymddiriedaeth – o ran sefydliadau a rhwng pobl – a’r angen am atebolrwydd a thryloywder yn fframwaith rheoliadol newydd yr UE.
Y prif neges o’n dadansoddiad yw bod angen i gymdeithas sifil fod wrth wraidd llywio’r gwaith o reoleiddio defnydd AI yn Ewrop a thu hwnt. Yn hyn o beth, mae gwersi angen eu dysgu. Mae’n dadansoddiad yn awgrymu hyd yma, y gallai/dylai cymdeithas sifil fod wedi bod â rôl gryfach wrth ddatblygu fframwaith rheoliadol y CE – mae’r hyn y maent wedi’i ddweud yn awgrymu nad ydynt o’r farn eu bod wedi’u cynnwys yn y broses hyd yma.
[i] Richard Dobbs, James Manyika, Jonathan Woetzel, ‘The four global forces breaking all the trends’, Sefydliad McKinsey Byd-eang (Ebrill 2015) – dyfynnwyd ym mhumed adroddiad sesiwn Pwyllgor y Gwyddorau a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin, Roboteg a Deallusrwydd Artiffisial 2016–17, t.12.