Covid a’r meysydd glo: agweddau at frechu yng Nghymru ac Appalachia


Ymunais a thîm o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Kentucky i ymchwilio i agweddau at frechlynnau Covid-19 mewn cymunedau glofaol yng Nghymru a’r Unol Daleithiau. Cyhoeddir ein canfyddiadau mewn adroddiad newydd i’r Academi Brydeinig, Covid and the coalfield: Vaccine hesitance in Wales and Appalachia.

Mae pandemig Covid-19 yn ein hatgoffa’n glir o’r graddiant cymdeithasol mewn iechyd, gyda’r effaith yn waeth ar gymunedau difreintiedig mewn ystod o ganlyniadau o heintiau i farwolaethau. Mae’r graddiant hwn hefyd i’w weld yn y niferoedd is sy’n dewis cael eu brechu, sy’n golygu risg o waethygu anghydraddoldebau iechyd hirdymor. Mae ein hymchwil yn edrych ar agweddau at frechlynnau mewn dau ranbarth glofaol, de Cymru a chanolbarth Appalachia. Cwblhawyd arolwg meintiol graddfa fawr o dros 9,000 o bobl ledled Cymru a’r taleithiau sy’n ffurfio canolbarth Appalachia, a chyfweliadau ansoddol ar-lein gyda 40 o bobl oedd wedi’u brechu a heb eu brechu.

Brechu ac agweddau tuag ato

Canfuwyd lefelau uwch o betruster am y brechlyn ac amheuaeth o adroddiadau swyddogol am y pandemig yn ardaloedd y meysydd glo. O’u cymharu ag ardaloedd nad oedd yn feysydd glo, roedd ymatebwyr yn llai tebygol o gytuno bod brechlynnau’n amddiffyn pobl rhag Covid-19, neu ymddiried yn y wyddoniaeth y tu ôl i’r brechlynnau.

Gan gyd-fynd â’r agweddau hyn, yn y sampl yn yr UD, roedd cyfradd is o frechu’n cael ei chofnodi mewn ardaloedd glofaol. Yng Nghymru roedd cyfraddau brechu’n gyfartal mewn ardaloedd glofaol ac ardaloedd nad oedd yn lofaol, gan awgrymu y llwyddwyd i osgoi’r risg o niferoedd is yn cael eu brechu mewn ardaloedd glofaol yng Nghymru. Er bod hyn yn dangos llwyddiant trawiadol o ran polisi, mae’r amodau strwythurol a allai beri petruster brechu’n bodoli ac ni ddylid cymryd ymddiriedaeth yn ganiataol.

Cyfranogiad cymdeithasol a gwleidyddol

Gallwn dynnu sylw at sut y gallai cyfranogiad cymdeithasol a gwleidyddol pobl ddylanwadu ar y ffordd y maent yn ymateb i gyngor iechyd cyhoeddus. Roedd ymatebwyr heb eu brechu yn aml i’w gweld wedi’u datgysylltu oddi wrth y cymunedau lle’r oeddent yn byw ac yn llai tebygol o nodi eu bod yn aelod o grwpiau cymunedol lleol ac undebau llafur. Roedd y cysylltiadau hyn yn arbennig o gryf mewn ardaloedd meysydd glo yn Appalachia. Roedd cyfweleion oedd wedi’u brechu yn gyffredinol yn nodi eu bod yn teimlo’n rhan o’u cymunedau. Ond roedd cyfweleion oedd heb eu brechu yn ymddangos yn fwy tebygol o fod yn ynysig yn gymdeithasol gyda llawer yn byw ar eu pen eu hunain, neu gyda rhieni oedrannus.

Roedd diffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth a’r cyfryngau prif ffrwd yn gyffredin ymysg ymatebwyr nad oeddent wedi’u brechu. Roedd cyfraddau is o frechu ymhlith ymatebwyr i’r arolwg oedd wedi pleidleisio dros Donald Trump yn yr UD a’r rheini oedd yn bwriadu pleidleisio dros Reform UK, ac i raddau llai, y Blaid Werdd yng Nghymru. Roedd cyfraddau brechu’n is ymysg y rheini a bleidleisiodd ‘gadael’ yn refferendwm y DU ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd na’r rheini a bleidleisiodd ‘aros’.

Roedd pobl nad oedd yn pleidleisio hefyd yn fwy tebygol o fod heb eu brechu. Yng Nghymru, roedd y rheini oedd yn mynegi agweddau oedd yn amheus neu’n elyniaethus at ddatganoli yng Nghymru hefyd yn llai tebygol o fod wedi’u brechu, tra bod llawer o ymatebwyr oedd wedi’u brechu’n canmol ymateb Llywodraeth Cymru.

Goblygiadau polisi

Roedd cymdeithas sifil yn ehangach yn cefnogi’r ymgyrch frechu. Am y rheswm hwn yn rhannol efallai, mae llawer sy’n dal i fod heb eu brechu wedi’u datgysylltu o’u cymunedau lleol. Mae angen i lunwyr polisïau ddod o hyd i’r dulliau a’r negeseuon fydd yn cyrraedd y bobl hyn. Efallai fod annog pobl i helpu i ddiogelu eu cymunedau’n llai perswadiol i’r rheini nad ydynt yn teimlo’n rhan o’r cymunedau hyn. Yng Nghymru, mae’n bosibl y gallai’r rheini sy’n amheus o ddatganoli yng Nghymru gael budd o negeseuon penodol (gyda dewis gofalus o bobl i drosglwyddo’r negeseuon) er mwyn hybu’r nifer sy’n dewis cael eu brechu.


Mae Dr Robin Mann yn gydgyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol Bangor. Mae diddordebau ac arbenigedd ymchwil Robin mewn cymdeithaseg wleidyddol, yn enwedig hunaniaeth genedlaethol, cenedlaetholdeb, cymdeithas sifil; dosbarth, mudo ac ethnigrwydd; a gwleidyddiaeth cysylltiadau cymdeithasol lleol.

 

Llun: torstensimon o Pixabay


Share