Ledled y DU, mae pobl sy’n ceisio noddfa yn wynebu gwahaniaethu ac adfyd. Er bod trafodaeth gyhoeddus yn aml yn tynnu sylw at rethreg elyniaethus ar gyfryngau cymdeithasol neu o symudiadau’r dde eithaf, mae math tawelach ond yr un mor bwerus o ddad-ddyneiddio yn dod i’r amlwg drwy’r union systemau sydd wedi’u dylunio i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae prosesau biwrocrataidd, gweithredu polisi anghyson a chyfyngiadau adnoddau i gyd yn cyfrannu at ymdeimlad dwfn o ofn a dadleoli.
Mae’r post blog hwn yn tynnu ar ganfyddiadau 30 o gyfweliadau â sefydliadau cymdeithas sifil sy’n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, yr Alban, Cymru a Lloegr. Mae’n archwilio sut mae llywodraethu datganoledig yn dylanwadu ar brofiadau cymorth yn seiliedig ar leoedd, a therfynau’r cymorth hwnnw o fewn amgylchedd mewnfudo gelyniaethus ehangach.
Datganoli ac addewid noddfa
Mae polisi mewnfudo a lloches yn parhau i fod yn hawl i’w chadw’n llawn gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae llawer o’r meysydd polisi sy’n effeithio ar fywyd pob dydd megis gofal iechyd, addysg, tai a thrafnidiaeth wedi’u datganoli yng Nghymru a’r Alban. Mae hyn yn creu tensiwn pwysig oherwydd er bod penderfyniadau mewnfudo yn cael eu rheoli’n ganolog, mae’r profiad bywyd o geisio noddfa yn gallu bod yn lleol iawn.
Mae llywodraethau Cymru a’r Alban wedi gwthio’n ôl yn gyson yn rhethregol yn erbyn dull amgylchedd mewnfudo elyniaethus Llywodraeth y DU. Mae mentrau fel Strategaeth Integreiddio Ffoaduriaid Newydd yr Alban a Chenedl Noddfa Cymru yn mynegi ymrwymiad i gynhwysiant, urddas a chymorth.
Mae’r naratifau hyn yn gallu lunio blaenoriaethau sefydliadol, galluogi partneriaethau a dangos parodrwydd gwleidyddol i wneud pethau’n wahanol. Fodd bynnag, mae ein hymchwil WISERD yn dangos bod y realiti ar lawr gwlad yn fwy cymhleth.
Rôl hollbwysig y gymdeithas sifil
Mae ein hymchwil yn tynnu sylw at sut mae sefydliadau cymdeithas sifil yn ganolog i dirwedd loches y DU. Maent yn llunio agendâu ymchwil, yn dylanwadu ar ddadleuon polisi ac yn addasu eu gwaith i anghenion cymunedau. Fodd bynnag, mae eu gallu yn amrywio’n sylweddol ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban gan adlewyrchu gwahaniaethau mewn strwythurau ariannu, ecosystemau sefydliadol a chyd-destunau gwleidyddol
Yr Alban: gweledigaeth flaengar gyda phwerau cyfyngedig
Mae Strategaeth Integreiddio Ffoaduriaid Newydd yr Alban gyda’i phwyslais ar ganlyniadau cyfartal, yn cynnig fframwaith clir ar gyfer integreiddio sy’n nodedig o absennol ar lefel y DU gyfan. Fodd bynnag, mae’r weledigaeth hon yn cael ei chyfyngu gan gyfyngiadau strwythurol. Adroddodd sefydliadau cymdeithas sifil sawl her barhaus:
- Effaith polisïau lloches ledled y DU (e.e. cyfyngiadau ar aduniadau teuluoedd)
- Prinder difrifol o ran cyngor cyfreithiol
- Diffyg diogelwch cyllid tymor hir
- Adnoddau wedi gorymestyn, rhai ariannol a dynol
Er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, mae canfyddiad o hyd bod yr Alban yn cynnig amgylchedd mwy cefnogol na Lloegr, gan danlinellu pwysigrwydd naws wleidyddol a diwylliant sefydliadol.
Cymru: perthnasoedd cadarnhaol ond bylchau parhaus
Yng Nghymru, mae datganoli wedi galluogi mwy o berthnasoedd cydweithredol rhwng y llywodraeth a’r gymdeithas sifil. Mae fframwaith Cenedl Noddfa, ar y cyd â mentrau ymarferol fel cynlluniau trafnidiaeth â chymhorthdal, yn adlewyrchu ymrwymiad cryf i gynhwysiant.
Ac eto, mae rhwystrau sylweddol yn parhau:
- Mae “anialwch cyngor cyfreithiol” yn cyfyngu ar fynediad i gyfiawnder
- Loteri cod post mewn gwasanaethau a chymorth
- Heriau trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig
- Adroddwyd am lefelau uwch o elyniaeth mewn rhai cymunedau gwledig
- Tarfu ar addysg oherwydd symudiadau aml a chostau teithio
Tynnodd sefydliadau sylw hefyd at anawsterau mewn cyfathrebu rhwng y Swyddfa Gartref ac awdurdodau lleol, gan greu ansicrwydd ac oedi ar y rheng flaen.
Lloegr: darnio a gelyniaeth uwch
Yn Lloegr, mae’r darlun yn fwy darniog, ac mewn llawer o achosion, yn fwy gelyniaethus. Yn aml, mae ymwybyddiaeth gyfyngedig o sut mae dulliau datganoledig yn wahanol, ac mae sefydliadau cymdeithas sifil yn gweithredu mewn amgylchedd mwy cyfnewidiol yn wleidyddol.
Mae’r heriau allweddol a nodwyd yn cynnwys:
- Mae ofn cynyddol yn gysylltiedig â gweithgarwch y dde eithaf a gelyniaeth gyhoeddus
- Pryderon diogelwch i staff a gwirfoddolwyr
- Amrywiad sylweddol mewn ymatebion awdurdodau lleol, y mae rheolaeth wleidyddol yn dylanwadu arnynt yn aml.
- Datblygiad naratifau “ffoaduriaid da/ffoaduriaid drwg”, gan atgyfnerthu system ddwy haen
Ar gyfer pobl sy’n ceisio lloches, mae brwydrau pob dydd yn drechaf:
- Iechyd meddwl gwael yn gysylltiedig ag ansicrwydd ac amseroedd aros hir
- Cymorth ariannol isel iawn (cyn lleied â £9 yr wythnos)
- Costau teithio uchel i gael cyngor cyfreithiol neu ddosbarthiadau Saesneg
Mae’r heriau hyn yn tynnu sylw at effaith gronnus polisi, rhethreg a chyfyngiadau adnoddau.
Naratifau a realiti byw aneglur
Yr hyn sy’n deillio o’r ymchwil hon yw rhyngweithio cymhleth rhwng naratifau cenedlaethol, fframweithiau polisi datganoledig a byw gorleol. Gall rhethreg gefnogol yng Nghymru a’r Alban gydfodoli â rhwystrau systemig megis cymorth cyfreithiol cyfyngedig neu ddarpariaeth gwasanaeth annghyson. Ar yr un pryd, mae’r amgylchedd gelyniaethus a grëwyd ar lefel y DU yn treiddio i bob cyd-destun, gan ddylanwadu ar ganfyddiadau, polisïau a rhyngweithiadau pob dydd. Ar y cyfan, mae hyn yn creu tirwedd ddarniog ac yn aml yn anghyson ar gyfer pobl sy’n ceisio noddfa.
Casgliad: terfynau datganoli a phwysigrwydd cymdeithas sifil
Mae datganoli wedi galluogi arloesi pwysig o ran polisi a naratifau mwy cynhwysol yng Nghymru a’r Alban. Fodd bynnag, mae ei allu i drawsnewid profiad bywyd y rhai sy’n ceisio lloches yn parhau i fod yn gyfyngedig gan fframwaith trosfwaol polisi mewnfudo’r DU.
Yn y cyd-destun hwn, mae’r gymdeithas sifil yn chwarae rôl hanfodol sydd, yn aml, heb ei chydnabod. Yn ogystal â darparu gwasanaethau hanfodol, mae sefydliadau’n gweithredu fel eiriolwyr, cyfryngwyr a ffynonellau sefydlogrwydd mewn system sydd fel arall yn ansicr.
Yn y pen draw, mae’r canfyddiadau’n awgrymu tensiwn allweddol: er y gall dulliau sy’n seiliedig ar leoedd feddalu ymylon system elyniaethus, ni allant ei wrthweithio yn llawn. Yn ogystal ag arloesi lleol, mae mynd i’r afael â’r heriau y mae ceiswyr noddfa yn eu hwynebu yn gofyn am newidiadau sylfaenol ar y lefel genedlaethol.
Credyd delwedd: Doc_Steele trwy iStock.