Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai dysgu proffesiynol gwrth-hiliol yn orfodol i bob athro ysgol yng Nghymru fel rhan o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru. Mae tystiolaeth o gasgliad diweddaraf Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD (WMCS) yn awgrymu bod gwir angen hyfforddiant cyffredinol a gorfodol o’r fath.
Yn ystod haf 2022, gofynnwyd i 1,100 o ddisgyblion oedd yn mynychu sampl gynrychioliadol o ysgolion ledled Cymru i ba raddau y cânt eu hannog i drafod materion hil a hiliaeth yn eu hysgol. Fel y dengys Siart 1 isod, dywedodd bron i hanner eu bod yn cael eu hannog i drafod y materion hyn. Fodd bynnag, roedd un ym mhob pump yn anghytuno, a doedd bron i draean ddim yn gwybod, sydd efallai’n awgrymu os oedd trafodaethau’n cael eu cynnal, nad oeddent yn arbennig o ddiddorol neu heriol.
Siart 1
Gofynnwyd i’r disgyblion hyn hefyd a oeddent wedi trafod mudiad Black Lives Matter yn eu dosbarthiadau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn flaenorol. Roedd hyn o ddiddordeb arbennig i ni gan fod arolwg y flwyddyn flaenorol (Casgliad 9) wedi dangos bod hwn yn fudiad cymdeithasol yr oedd disgyblion yn teimlo’n gryf iawn amdano. Roedd dros ddwy ran o dair wedi dweud mai hiliaeth oedd yr un mater yr oeddent yn meddwl amdano amlaf ac roedd llawer wedi cymryd rhan yn y gwrthdystiadau Black Lives Matter.
Yn yr arolwg diweddaraf, dywedodd dros hanner y disgyblion (51%) eu bod wedi trafod mudiad Black Lives Matter ar ryw adeg yn eu dosbarthiadau yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, ceir gwahaniaethau eang ar lefel ysgol. Fel y dengys Siart 2, roedd mudiad Black Lives Matter bron i naw gwaith yn fwy tebygol o fod wedi’i drafod yn Ysgol J nag yn Ysgol A. I ryw raddau, mae’r amrywiad eang hwn yn adlewyrchu proffil ethnig gwahanol yr ysgolion, ond mae hyn yn codi ystyriaethau pellach am y graddau y mae athrawon mewn ysgolion sydd ag ychydig yn unig o ddisgyblion Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig (BAME) yn teimlo’n hyderus neu’n gyfforddus yn trafod materion yn ymwneud â hil a hiliaeth – neu’n wir yn teimlo ei fod yn angenrheidiol hyd yn oed.
Siart 2
Yn ogystal â holi a yw materion hil a hiliaeth yn cael eu trafod, roedd gennym ddiddordeb hefyd mewn gwybod a yw’r disgyblion yn teimlo bod eu hysgol yn cymryd adroddiadau am hiliaeth o ddifrif. I ryw raddau, mae eu hymatebion yn dangos bod ysgolion yn cymryd hiliaeth o ddifrif. Roedd mwyafrif llethol (81%) yr ymatebwyr yn cytuno, a dim ond un ym mhob pump oedd yn anghytuno bod eu hysgol yn cymryd hiliaeth o ddifrif. Fodd bynnag, ceir gwahaniaeth eang rhwng ymatebion disgyblion gwyn a rhai o leiafrifoedd ethnig.
Fel y dengys Siart 3 isod, roedd disgyblion Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig dros ddwywaith yn fwy tebygol o anghytuno â’r datganiad bod eu hysgol yn cymryd adroddiadau am hiliaeth o ddifrif.
Siart 3
Fel gyda thrafodaethau yn y dosbarth, ceir gwahaniaeth sylweddol ar lefel ysgol. Mae Siart 4 yn dangos bod llai na hanner (44%) y disgyblion yn Ysgol A yn meddwl bod eu hysgol yn cymryd adroddiadau am hiliaeth o ddifrif, o’i gymharu â thros 90% o ddisgyblion yn ysgol H. Mae cymharu Siartiau 2 a 4 yn dangos bod rhywfaint o berthynas rhwng disgyblion yn adrodd am drafodaethau ar Black Lives Matter yn y dosbarth a’u canfyddiad bod adroddiadau am hiliaeth yn cael eu cymryd o ddifrif. Mae Ysgol A ar ‘waelod’ y ddau siart, tra bod Ysgol H yn ymddangos yn agos i frig y ddau.
Siart 4
Yn amlwg mae’r berthynas rhwng trafod materion yn ymwneud a hil â hiliaeth yn yr ysgol a delio â digwyddiadau hiliol yn gymhleth. Serch hynny, mae canfyddiadau diweddaraf WMCS yn dangos bod gwaith i’w wneud os yw holl ddisgyblion Cymru yn mynd i ddeall a theimlo y gallant drafod materion sy’n ymwneud ag anghyfiawnder hiliol, a theimlo’n hyderus y caiff hiliaeth ei drin yn eu hysgol. Bydd yn bwysig gweld a fydd y mesurau y mae Lywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith yn gwneud gwahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod.
Llun gan Taylor Flowe ar Unsplash.