O waharddiad i gynhwysiant: yr angen dybryd am well cymorth mewn ysgolion


A side view of a young teenage boy who is looking forlorn and sad after being sen out of the classroom in a school in the North East of England. He has his arms folded and is looking down.

Ar 4 Mawrth, arweiniodd ymchwilwyr Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), Jemma Bridgeman a Chris Taylor, weminar ar gyfer ymarferwyr ynghylch y prosiect Bywydau wedi’u Gwahardd, ar gyfer Cyngor Caerdydd. Archwiliodd y prosiect Bywydau wedi’u Gwahardd waharddiadau o ysgolion ledled y DU a datgelodd arferion anffurfiol, heriau systemig, a staff ysgolion yn ceisio cefnogi disgyblion ag anghenion cymhleth. Roedd y data’n dangos darlun o system sy’n brwydro i gydbwyso disgyblaeth a chymorth, a rheolau ac empathi.

Dechreuom y weminar drwy egluro bod gwaharddiadau o’r ysgol yn broblem sy’n fwy nag y mae’r ffigurau swyddogol yn eu hawgrymu. Datgelodd yr ymchwil, y tu hwnt i’r ystadegau swyddogol, fod yna lawer o arferion answyddogol: “cyfnodau pwyllo,” “ystafelloedd ar gyfer hunanfyfyrio,” amserlenni â llai o wersi, a myfyrwyr yn cael eu “hanfon i’r ystafell ddosbarth drws nesaf.” Nid yw’r gwaharddiadau anffurfiol hyn yn cael eu cofnodi, a gwrthodir yr hawl i rieni herio’r gwaharddiadau anghyfreithlon hyn.

Efallai y bydd disgybl yn cael ei “anfon adref i bwyllo” neu’n treulio’r diwrnod mewn ystafell ar gyfer hunanfyfyrio. Er nad yw’r mesurau hyn yn mynd mor bell â gwaharddiadau ffurfiol, maent yn cynrychioli amser dysgu a gollir gan nad yw’r dysgwyr mewn ystafell ddosbarth prif ffrwd, a gallant fod yn arwydd bod disgybl yn dechrau ymddieithrio o’r ysgol.

Nesaf, archwiliodd y cyfranogwyr ddwy astudiaeth achos o’r prosiect sy’n dangos cymhlethdod y broses gwahardd o’r ysgol. Yn gyntaf, Jack. Myfyriwr Blwyddyn 8 y credai ei fam fod ganddo awtistiaeth. Nododd staff yr ysgol fod gan Jack broblemau o ran ei ymddygiad a arweiniodd yn y pen draw at ei waharddiad parhaol. Erbyn iddo gael ei ddatganiad ynghylch anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol, roedd yn rhy hwyr. Roedd Jack eisoes wedi’i wahardd yn barhaol o’r ysgol. Gallai’r cymorth yr oedd ei angen arno—cymorth un-i-un—fod wedi atal ei waharddiad yn llwyr.

Efallai mai’r canfyddiad sy’n peri’r gofid mwyaf yw sut y mae gwaharddiadau wedi dod, yn wrthnysig, yn ffordd o gael gymorth. Mae staff ysgolion yn aml yn canfod eu hunain mewn sefyllfa amhosibl: maent yn gwybod y bydd gwaharddiad yn niweidiol i fyfyriwr, ond efallai mai dyma’r unig ffordd o gael mynediad at yr adnoddau y mae dirfawr eu hangen ar fyfyriwr.

Mae achos Helena yn dangos y paradocs hwn. Er iddi gyrraedd ei hysgol newydd gydag addewidion o ymddygiad gwell, cafodd drafferth o ran presenoldeb ac roedd yn ymddwyn mewn ffordd a ddisgrifiwyd yn heriol gan staff. Fodd bynnag, o dan yr wyneb roedd materion dyfnach—ymdrechion blaenorol i gyflawni hunanladdiad a diffyg ymddiriedaeth sylfaenol mewn oedolion. Cafodd staff yr ysgol eu hunain mewn penbleth, gan deimlo efallai mai gwaharddiad parhaol oedd yr unig ffordd o sicrhau’r cymorth yr oedd Helena yn amlwg ei angen.

Gwnaeth y cyfranogwyr drafod yr iaith yr oedd staff yr ysgol wedi’i defnyddio yn yr astudiaethau achos. Teimlent y gallai’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio disgyblion sy’n ei chael yn anodd lywio eu dyfodol; nododd cynrychiolwyr y gweithdai nad yw disgrifio myfyriwr fel un sy’n “mynnu sylw” neu’n “ystrywgar” yn cydnabod bod yr ymddygiadau hyn yn aml yn arwydd o anghenion sydd heb eu diwallu neu ymatebion i drawma. Gallai myfyriwr sy’n “mynnu sylw” fod yn ceisio cysylltiad mewn gwirionedd; gall ymddygiad aflonyddgar fod yn ffordd o geisio cael help.

Dywedodd staff ysgolion wrthym fod gan ddysgwyr fwy o anghenion cymorth yn dilyn pandemig COVID-19. Eglurwyd, oherwydd bod angen cynyddol am wasanaethau cymdeithasol, fod gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) dan ormod o bwysau. Yn achos gwasanaethau cymdeithasol, teimlai staff ysgolion fod y meini prawf ar gyfer cymorth bellach yn rhy uchel, gan olygu nad oedd rhai teuluoedd yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt, a allai gyfrannu at heriau ymddygiadol eu plant yn yr ysgol. Nododd staff ysgolion hefyd fod teuluoedd yn ffactor hollbwysig wrth atal gwaharddiadau. Pan fyddai rhieni a gofalwyr yn gweithio gyda nhw, roeddent yn fwy tebygol o atal gwaharddiad.

Daeth y weminar i ben gyda thrafodaeth ar bolisi ac arfer gwahardd. Awgrymodd y cyfranogwyr y gallem fod yn gofyn y cwestiynau anghywir am waharddiad, gan awgrymu y dylem fod yn gofyn cwestiynau mewn ffordd mwy systematig: Sut y gallwn ni ddylunio ysgolion a systemau cymorth amlasiantaeth sy’n bodloni anghenion ein cymunedau? Sut y gallwn ni annog mwy o gydweithio rhwng rhieni ac ysgolion?

Un o ganfyddiadau’r prosiect Bywydau wedi’u Gwahardd oedd bod staff ysgolion yn delio â phwysau a heriau sy’n gynyddol gymhleth. Mae angen inni ailfeddwl sut mae addysg yn gweithio gyda gwasanaethau cymorth i greu gwasanaeth addysg cynhwysol sy’n ystyriol o drawma sy’n diwallu anghenion dysgwyr sydd mewn perygl o gael eu gwahardd o’r ysgol yng Nghymru.

 

Credyd delwedd: SolStock trwy iStock.


Rhannu