A yw cefnogi annibyniaeth i Gymru yr un peth â bod yn genedlaetholwr? Ddim o reidrwydd


Wooden sign with walking figure

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru wedi tyfu mewn ffordd ddigynsail. Canfu arolwg diweddar a gomisiynwyd gan YesCymru, grŵp ymgyrchu o blaid annibyniaeth, y byddai 41% o bobl sydd wedi dod i benderfyniad ar y mater bellach yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.

Yr hyn sy’n drawiadol yw bod y ffigur yn neidio i 72% ymhlith pobl 25 i 34 oed. Yn y cyfamser, mae cenedlaethau hŷn, yn enwedig y rhai 65 oed a hŷn, yn y categori “na” yn gadarn, gydag 80% yn gwrthwynebu.

Mae hyn yn sicr yn ymddangos yn newid mawr yn hwyliau’r cyhoedd. Ond a yw’n golygu bod Cymru’n dod yn fwy cenedlaetholgar? Ddim o reidrwydd.

Mae’r berthynas rhwng agweddau cyfansoddiadol a chenedlaetholdeb yn gymhleth, fel y dengys ymchwil gennyf fi a’m cydweithwyr. Mae llawer o bobl yn cefnogi annibyniaeth am resymau nad ydynt yn ymwneud â theimladau cryf o Gymreictod neu chwifio baneri, ond yn hytrach y dyhead i allu gwneud gwell penderfyniadau yn nes at adref.

Yn ystod 2021, fel rhan o brosiect ymchwil ehangach ar farn pobl Cymru ar y pandemig COVID a brechu, buom yn siarad â phobl o wahanol oedrannau, cefndiroedd a lleoliadau. Roedd rhai wedi’u brechu, eraill heb. Roedd rhai wedi pleidleisio mewn etholiadau tra bod eraill heb bleidleisio ers blynyddoedd, os o gwbl.

Roedd llawer o bobl y buom yn siarad â nhw’n teimlo bod llywodraeth Cymru wedi gwneud yn well na San Steffan wrth ymdrin â’r pandemig. Roedden nhw’n ystyried y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru – fel cadw at reolau llymach pan roedd Lloegr yn llacio’u rhai nhw – yn fwy synhwyrol, yn fwy gofalgar, ac yn fwy cydnaws â’r hyn yr oedden nhw yn bersonol eisiau ei weld gan lywodraeth. A chyda hynny magwyd hyder y gallai Cymru ymdopi â hyd yn oed mwy o reolaeth dros ei materion ei hun.

Yn hanesyddol, mae cenedlaetholdeb Cymreig wedi’i gysylltu’n agos â’r Gymraeg a diwylliant. Roedd hunan-lywodraeth bob amser yn rhan o’r sgwrs, ond nid o reidrwydd y prif sbardun. Dechreuodd hynny newid ar ddiwedd yr 20fed ganrif.

Ym 1979, pleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli. Ym 1997, pleidleisiodd o blaid o drwch blewyn. Ar ôl hynny, dechreuodd pethau newid yn araf. Ac yn awr, dros 25 mlynedd wedi datganoli, cefnogaeth i ryw fath o hunan-lywodraeth yw’r farn brif ffrwd. Nid yw annibyniaeth bellach yn syniad mor ymylol.

Yn ddiddorol, mae cenedlaethau iau yn llawer mwy agored iddo – ac mae llawer ohonyn nhw’n wahanol iawn i’r hyn y byddech chi fel arfer yn ei ystyried yn genedlaetholwyr. Dydyn nhw ddim o reidrwydd yn siarad Cymraeg neu’n ystyried eu hunain yn “wleidyddol” yn yr ystyr draddodiadol. Mae eu cefnogaeth yn aml ar sail pryderon ymarferol am yr economi, democratiaeth a sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud.

Mae digwyddiadau allanol fel Brexit yn amlwg wedi cyfrannu. Yn wir, ffurfiwyd ymgyrch YesCymru ychydig cyn refferendwm yr UE yn 2016. Ffrwydrodd y gefnogaeth i annibyniaeth wedi hynny, yn enwedig ymhlith pleidleiswyr Aros.

Roedd llawer yn ystyried y dadlau yn sgil Brexit, yn ogystal â llymder, yn brawf nad oedd San Steffan yn adlewyrchu eu gwerthoedd na’u blaenoriaethau. Dangosodd hyn sut y gall digwyddiadau aflonyddgar ail-lunio’r ffordd y mae pobl yn gweld eu lle o fewn y DU.

Annibyniaeth heb genedlaetholdeb?

Un o’r canfyddiadau ymchwil a’n synnodd fwyaf — a ailadroddwyd hefyd ym mhleidlais 2025 — yw nad yw cefnogaeth i annibyniaeth bob amser yn dod gan bobl sy’n wleidyddol ymgysylltiedig neu o blaid datganoli. Yn wir, roedd rhywfaint o’r gefnogaeth yn dod gan bobl nad oedden nhw wedi pleidleisio ers blynyddoedd, neu a oedd yn teimlo’n gwbl ddadrithiedig o’r system wleidyddol.

Gwnaethant fynegi eu cefnogaeth i annibyniaeth drwy ddatganiadau fel: “Mae angen iddyn nhw [llywodraeth Cymru] i gyd fynd, ond os ydw i’n talu treth yng Nghymru rydw i eisiau iddi aros yng Nghymru a chael ei gwario yma.”

Fe wnaethon ni hefyd ddod o hyd i lawer o bobl a oedd yn eistedd ar y clawdd. Doedden nhw ddim yn erbyn annibyniaeth, ond roedd ganddyn nhw gwestiynau mawr am y pwnc. A fyddai’n golygu ynysu? A fyddai’n arwain at fwy o raniadau?

Dywedodd un person wrthym: “Rydw i ychydig yn genedlaetholgar, ond doeddwn i ddim eisiau i’r DU adael yr UE. Felly pam fyddwn i eisiau i Gymru adael y DU?” Dywedodd un arall: “Dydw i ddim yn credu mewn ffiniau, ond rwy’n credu y dylai llywodraeth Cymru redeg pethau.”

Nid yw’r rhain yn safbwyntiau du-a-gwyn. Mae teimladau pobl am annibyniaeth — a chenedlaetholdeb — yn aml yn llawn gwrthddywediadau. Ac mae hyn yn adlewyrchu’r gwirionedd ehangach fod safbwyntiau gwleidyddol cyffredin yn aml yn flêr. Nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn byw yn yr eithafion, ac mae hyn yn beth da.

Mae’n werth nodi hefyd fod cenedlaetholdeb yn dod ar sawl ffurf. Mae rhai pobl sy’n gwrthwynebu annibyniaeth i Gymru yn gryf yn gwneud hynny o safbwynt poblyddol-genedlaetholgar asgell dde iawn, lle mae galwadau i ddiddymu’r Senedd yn eistedd ochr yn ochr â galwadau am ffiniau caled a llai o fewnfudo. Felly, nid yw’r dybiaeth fod “annibyniaeth yn hafal i genedlaetholdeb” bob amser yn wir – ac nid yw’r gwrthwyneb chwaith.

A allai annibyniaeth ddigwydd mewn gwirionedd?

Nid yw Cymru ar ei phen ei hun wrth drafod cwestiynau mawr am ei dyfodol. Mewn mannau fel Yr Alban, Catalwnia a Fflandrys, gall argyfyngau gwleidyddol ac economaidd danio mudiadau dros annibyniaeth. Yn yr holl achosion hyn, mae ymddiriedaeth yn y llywodraeth ganolog ac awydd am fwy o reolaeth gyllidol leol wedi chwarae rhan fawr.

I Gymru, mae’r cwestiwn yn aml yn dod yn ôl i’r economi. Er bod ffydd yng ngallu Cymru i lywodraethu yn tyfu, mae llawer yn dal i boeni a allai Cymru annibynnol sefyll ar ei phen ei hun yn ariannol. Ac i lawer o bleidleiswyr nad ydynt wedi dod i benderfyniad, dyma’r cwestiwn tyngedfennol o hyd. Am y rheswm hwn, gallai rhoi mwy o bwerau i Gymru drwy ddatganoli wneud mwy i atal galwadau am annibyniaeth na dim arall.

Ond mae’r sgwrs yn troi. Nid yw cefnogaeth i annibyniaeth yn ymwneud â chwynion cenedlaetholgar yn unig bellach. Mae’n ymwneud â sut mae pobl eisiau cael eu llywodraethu, ac am ymddiriedaeth ac ymatebolrwydd.

Felly, a yw cefnogi annibyniaeth Cymru yn eich gwneud chi’n genedlaetholwr? Ddim o reidrwydd. I lawer, nid yw’n ymwneud â chenedlaetholdeb o gwbl.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn The Conversation dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Llun gan Heather Wilde ar Unsplash.


Rhannu