A finnau’n berson sy’n dioddef o salwch cronig ac â system imiwnedd gwan, ro’n i’n gwarchod fy hun am gyfnodau hir yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnod hwn o absenoldeb estynedig, ro’n i’n cydymdeimlo â’r bobl hŷn a’r bobl anabl hynny oedd yn cael eu hystyried a’u hadnabod i fod yn grwpiau ar wahân. Rwy’n dadlau bod pandemig COVID-19 wedi dod â’r ddau grŵp hyn ynghyd drwy brofiadau tebyg o gael eu gwahaniaethu, eu hynysu a bod yn anweledig.
Drwy gasglu gwaith wedi’i olygu ar y pwnc hwn, ro’n i eisiau gwybod beth y gellid ei ddysgu. Yr hyn a ddaeth i’r amlwg oedd yr angen am foeseg o ran gofal sydd ddim yn gwahaniaethu nac yn dangos rhagfarn tuag at bobl hŷn neu bobl anabl, a phrofiadau unigryw croestoriadol o hygyrchedd digidol yn ystod y pandemig.
Yr angen am foeseg o ran gofal sydd ddim yn gwahaniaethau ar sail gallu corfforol neu oedran
Mae fy mhapur, yn trafod moeseg o ran dogni triniaeth gan ddefnyddio dulliau brysbennu iwtalitaraidd. Roedd oedran yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau o ran iechyd, yn enwedig yn ystod y cam cyntaf, yn hytrach na phenderfyniadau ar sail anghenion yr unigolyn.
Trafododd Maria Berghs et al. sut oedd pobl â chlefyd y cryman-gelloedd yn y DU yn poeni am gael eu ‘brysbennu’ a bod neb ar gael i siarad ar eu rhan os byddan nhw’n cael eu hanfon i’r ysbyty. O ganlyniad i ragfarn ar sail hil ac ableddiaeth, cafodd y cyflwr ei osod yn is o ran hierarchiaeth afiechydon sy’n cael eu hystyried i fod yn rhai difrifol wrth ddarparu gwasanaethau gofal.
Profiadau croestoriadol o ‘gyfnod y pandemig’ a hygyrchedd digidol yn ystod y pandemig
Roedd McFarland et al. yng Nghanada wedi canfod bod cyfnod y pandemig wedi gwella mynediad i bobl sy’n heneiddio neu ddatblygu anabledd diolch i dechnolegau ar-lein. Fodd bynnag, mae newid o ‘gyfnod y pandemig’ i ryngweithio mewn ffyrdd ‘arferol’, hynny yw, wyneb yn wyneb, wedi eithrio’r rhai oedd yn parhau i fod mewn perygl o COVID, ac oherwydd bod lleoliadau wyneb yn wyneb yn addas ar gyfer cyrff ‘arferol’.
Roedd gwaith McFarland et al. wedi tynnu sylw at yr angen i wneud gwelliannau technolegol ar y cyd â phobl hŷn a phobl anabl, a nid yn unig ar eu cyfer. Mae digideiddio yn gallu cynnwys pobl hŷn a’u rhwystro, a daeth hyn hefyd i’r amlwg yng ngwaith Konig a Seifer oedd yn sôn am ddefnydd pobl hŷn o’r rhyngrwyd yn y Swistir, ac yn pwysleisio’r angen i ganolbwyntio ar gynnwys a gwneud technoleg yn hygyrch i bobl hŷn.
Yn olaf, mae astudiaeth fanwl Alnamnakani o ddynes anabl, oedrannus Fwslimaidd a’i phrofiad o sawl ffordd o wahaniaethu yn ystod y pandemig yn y DU yn rhoi darlun pwerus o’r effaith anuniongyrchol gafodd y gwaharddiadau COVID ar brofiadau unigolion o ragfarn ar sail anabledd yn y cyfnod hwn. Dioddefodd Zora gamdriniaeth ar sail rhywedd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Er hynny, doedd hi ddim yn fodlon cael ei hystyried yn ddioddefwr, ac yn hytrach, galwodd ei hun yn ‘ddewr’ am ymateb i’r sawl wnaeth ei chamdrin a sôn amdano i’r awdurdodau. Gan hynny, cododd ei llais ynghylch diogelwch menywod yn y gymdeithas.
Cynllunio gwasanaethau gofal y dyfodol heb wahaniaethu
Mae’n amlwg pa mor hawdd yw gohirio cyfrifoldebau a moeseg ym maes gofal dros dro. Er dweud hynny, yn ystod y pandemig, newidiodd y ffordd o ‘ofalu’, gan roi’r cyfle i ni ystyried ffyrdd newydd o weithio a byw. Mae’r casgliad yn ein helpu i ddeall sut i gynnig dyfodol gwell o ran ‘gofal’.
Galwaf ar lywodraethau i ddysgu gwersi o COVID-19 a defnyddio ‘moeseg ofal gwrth-ableddol a gwrth-oedraniaethol’ i ddylunio gwasanaethau yn y dyfodol sy’n mynd i’r afael yn fwy effeithiol â gwahaniaethu systemig sy’n gorgyffwrdd. Mae angen i lunwyr polisïau roi hawliau dynol ac urddas pobl hŷn a phobl anabl wrth wraidd popeth.
Os na chawsoch chi’r cyfle i wylio Dr Bethany Simmonds (Prifysgol Aberystwyth) yn Seminar Amser Cinio WISERD gallwch ei wylio ar ein sianel YouTube.
Llun: Y Ganolfan Heneiddio’n Well