Mae ein hymchwil newydd yn trin a thrafod sefyllfa gyfoes hawliau dynol pobloedd brodorol ym Mangladesh. Yn ddiweddar, gwnaeth y tîm ddadansoddiad corpws o gyflwyniadau cymdeithas sifil i’r Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol diweddaraf, sef digwyddiad monitro hawliau dynol a gynhelir gan y Cenhedloedd Unedig bob pum mlynedd.
Er mwyn rhoi cyd-destun, amcangyfrifir bod pum miliwn o bobl frodorol ym Mangladesh (– a elwir hefyd yn Adivasi). Mae gan y wlad lu o ddyletswyddau cyfreithiol ar gydraddoldeb, ethnigrwydd a hawliau dynol a nodir yn y cyfansoddiad, y côd cyfreithiol domestig a chytundebau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig. Ac eto, un broblem allweddol y mae pobl brodorol yn ei hwynebu, fel y maen nhw mewn llawer o wladwriaethau yn Asia ac Affrica, yw bod ‘brodoriaeth’ yn gysyniad dadleuol.
Fel arfer, nid yw llywodraethau yn y rhanbarth yn cydnabod pobl frodorol yn gategori o ddinasyddion sy’n gymwys i gael hawliau a buddion arbennig ar sail y gorthrwm y maent yn eu hwynebu. Yn lle hynny, maent yn dadlau mai un Gorllewinol yn bennaf yw’r cysyniad o bobl frodorol, a’i fod yn un sy’n ymwneud â nodweddion penodol poblogaethau America. Ar wahân i’r dadleuon hyn, mae gwaith ysgolheigaidd cynharach wedi cyfeirio at droseddau yn erbyn hawliau pobl frodorol ym Mangladesh sy’n cyfateb i hil-laddiad diwylliannol. Fodd bynnag, mae llawer o’r ymchwil hon ymhell dros ddeg oed.
Mae ein hastudiaeth newydd yn amlygu sefyllfa gyfoes pobl frodorol. Mae’n cadarnhau sut mae pobl frodorol ym Mangladesh heddiw yn parhau i ddioddef troseddau sylweddol yn erbyn eu hawliau. Maent yn destun gwahaniaethu, gwrthodir hawliau tir iddynt, cânt eu gwahardd rhag gwneud penderfyniadau, maent yn wynebu trais ac mae eu hieithoedd brodorol dan orthrwm. Rydyn ni’n dadlau bod y foment hon yn hollbwysig.
Er nad oes modd ei lawn ddisgrifio’n hil-laddiad diwylliannol cyffredinol ar hyn o bryd, oni bai bod y llywodraeth a phartïon eraill yn gweithredu ar frys dros y blynyddoedd nesaf, mae’r sefyllfa’n debygol o arwain at golli rhai o’r grwpiau cymdeithasol-diwylliannol ac ieithyddol mwyaf bregus yng Ngweriniaeth Pobl Bangladesh, yn enwedig y rheini sy’n byw yng ngogledd Bryniau Chittagong (Chittagong Hill Tracts).
Mae’r data ar Fryniau Chittagong yn adrodd am nifer o achosion o drais, llofruddiaethau a phobl yn diflannu. Mae gwersylloedd ffoaduriaid y Rohingya, y drychineb amgylcheddol a ddaw yn eu sgil, heolydd eang newydd a diwydiannau echdynnol yn ffactorau eraill sy’n effeithio ar bobl frodorol. Mae’r holl faterion hyn yn digwydd mewn ardal ddaearyddol gyfyngedig; dim 13,184 km2 sydd i fryniau Chittagong.
Ar ben hynny, mae poblogaethau cymharol fach rhai grwpiau brodorol yn eu gwneud yn fwy bregus (er enghraifft, mae 45,000 o bobl yn perthyn i’r Tanchangya, 13,000 i’r Bawm a’r dim ond 2,000 i’r Chak – neu tua 380 o deuluoedd). Ar hyn o bryd, prin yw’r tebygolrwydd y bydd y bobl Adivasi hyn yn goroesi.
Gweler y canfyddiadau llawn yn y papur mynediad agored arfaethedig hwn:
Chaney, P., Sahoo, S., Punnoose, R. a Haneefa, M. (2025) Civil Society Organisations’ Perspectives on the Contemporary Human Rights Situation of Indigenous Peoples in Bangladesh: A Critical Analysis, International Journal on Minority and Group Rights.
Ariannwyd yr ymchwil hon gan Academi’r Gwyddorau Meddygol ac mae’r tîm ymchwil yn cynnwys Paul Chaney (Athro Emeritws, WISERD Caerdydd), yr Athro Sarbeswar Sahoo (Sefydliad Technoleg India, Delhi), Dr Reenu Punnoose (Sefydliad Technoleg India, Palakkad) a Dr Haneefa Muhammed (Ymchwilydd Annibynnol, Palakkad).