Myfyrdodau ar fy interniaeth a phwysigrwydd ymchwil hygyrch


Person reading book

Ym mis Hydref 2023, dechreuais interniaeth gyda Cymorth i Ddioddefwyr. Rhan o fy rôl oedd cynnal adolygiad llenyddiaeth i baratoi ar gyfer cynhyrchu adroddiad hygyrch yn archwilio profiadau dioddefwyr troseddau casineb drwy ymchwil academaidd diweddar, sydd eisoes yn bodoli, yn y maes. Prif ffocws yr interniaeth oedd sicrhau bod gwybodaeth academaidd am droseddau casineb ar gael yn rhwydd i gynulleidfaoedd gwahanol, fel ymarferwyr yn y maes a’r cyhoedd.

Mae hygyrchedd gwybodaeth academaidd yn ffenomenon bwysig sy’n aml yn cael ei hanwybyddu. Mae erthyglau ymchwil yn fwyfwy anodd i gynulleidfaoedd y tu allan i’r byd academaidd gael gafael arnynt a’u deall, oherwydd bod yn rhaid talu i’w defnyddio ac oherwydd y defnydd trwm o iaith academaidd a thermau arbenigol. O ganlyniad, mae diffyg cysylltiad rhwng gwybodaeth droseddegol am brofiadau dioddefwyr troseddau casineb ac ymarferwyr sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr.

Rwy’n credu’n gryf mai pwrpas ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yw dylanwadu’n gadarnhaol ar ein cymunedau. Drwy grynhoi ystod o astudiaethau empirig, symleiddio’r iaith sy’n cael ei defnyddio yn yr erthyglau hynny ac amlygu’r prif ganfyddiadau, mae’r prosiect interniaeth hwn yn cynnig cipolwg academaidd ond dealladwy ar brofiadau dioddefwyr o droseddau casineb. Fy ngobaith yw y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i ddiweddaru gwybodaeth a hyfforddiant ymarferwyr yn y maes ac i roi gwybodaeth i’r cyhoedd.

Gellir defnyddio canfyddiadau’r adroddiad hwn hefyd ar gyfer ymgyrchoedd hyfforddi a seminarau sy’n cael eu darparu gan Cymorth i Ddioddefwyr a mudiadau cymdeithas sifil eraill sydd ar “rheng flaen” y gwaith o gefnogi dioddefwyr. Er enghraifft, mae’r adroddiad eisoes wedi cael ei gyflwyno i Gymuned Ymarfer Troseddau Casineb a Bwrdd Tensiynau Cymunedol a Chasineb Cymru.

Rwy’n ddiolchgar i Cymorth i Ddioddefwyr a WISERD am roi’r cyfle hwn i mi sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at fy natblygiad proffesiynol ac academaidd. O dan oruchwyliaeth ragorol Becca Rosenthal (Rheolwr Canolfan Cymorth Casineb Cymru), llwyddais i gwrdd â thîm anhygoel, angerddol o ymarferwyr a roddodd groeso twymgalon i mi, gan rannu eu dealltwriaeth a’u dirnadaeth â mi a’m cefnogi drwy gydol y prosiect hwn.

Ar ôl cyfarfodydd gydag aelodau o Cymorth i Ddioddefwyr, cefais syniad da o swyddogaeth gyffredinol y sefydliad o ran rolau, arferion, ymchwil, digwyddiadau a chydweithio. Bûm hefyd mewn sesiynau hyfforddi gwahanol ar droseddau casineb, sydd wedi fy ngalluogi i ddeall y pwnc mewn ffordd sy’n mynd y tu hwnt i wybodaeth academaidd ac sy’n canolbwyntio ar brofiadau go iawn. Cefais hefyd gyfle i ddatblygu fy sgiliau mewn ysgrifennu anacademaidd a chyflwyniadau anacademaidd, set werthfawr o sgiliau y bydd ei hangen arnaf yn bendant yn y dyfodol.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at bwysigrwydd gwaith Cymorth i Ddioddefwyr o ran cefnogi dioddefwyr ac ymgysylltu â chymunedau. Mae gan bawb sy’n gweithio yn y sefydliad wir ddiddordeb ac angerdd anhunanol am eu gwaith, beth bynnag fo’r caledi y maent yn ei wynebu. Mae gweithio gyda dioddefwyr, gwrando ar eu straeon a chanfod ffyrdd o’u helpu’n effeithlon, yn waith cymhleth a sensitif rydw i’n bersonol yn ei edmygu’n fawr. Dyma un o’r amgylcheddau gwaith gorau a mwyaf diddorol i mi erioed gael cyfle i weithio ynddo.

 

Credyd delwedd: xijian trwy iStock.


Share