Llwyddiant grant ymchwil i bartneriaeth rhwng academyddion ac ymarferwyr


Three people walking in park

Mae Dr Elizabeth Woodcock yn Gymrawd Ymchwil ar brosiect ymchwil Cymuned Ymarfer Rhagnodi Cymdeithasol. Arweinir y prosiect hwn gan Dr Koen Bartels, Athro Cyswllt yn y Sefydliad Llywodraeth Leol (Inlogov), Prifysgol Birmingham. The Active Wellbeing Society yw’r prif bartner ymchwil, sef Cymdeithas Budd Cymunedol a sefydlwyd yn 2017 gan Wasanaeth Lles Cyngor Dinas Birmingham.


Meithrin gwaith partneriaeth

Y mis hwn, dechreuon ni brosiect ymchwil 12 mis ar ragnodi cymdeithasol, diolch i bartneriaeth sy’n tyfu rhwng ymchwilwyr academaidd ac ymarferwyr. Dechreuodd y bartneriaeth gydag arian sbarduno gan WISERD bum mlynedd yn ôl, ac mae’n dangos sut gall meithrin ymagwedd ar y cyd ddwyn ffrwyth yn y pen draw.

Cymuned ymarfer rhagnodi cymdeithasol

Partneriaeth yw’r prosiect ymchwil, rhwng y Ganolfan ar gyfer Lles Dinesig ym Mhrifysgol Birmingham a’r Active Wellbeing Society sy’n cefnogi rhaglen fawr o weithgareddau ‘rhagnodi cymdeithasol’. Mae rhagnodi cymdeithasol yn ymagwedd gynyddol boblogaidd yng ngwledydd Prydain, a’i nod yw mynd i’r afael â’r materion anfeddygol ehangach sy’n effeithio ar les pobl, drwy eu helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned.

Rydyn ni’n awyddus i ddarganfod sut gall rhagnodi cymdeithasol newid anghydraddoldebau sylfaenol o ran lles pobl. Rydyn ni’n ystyried lles pobl fel rhywbeth sy’n ganlyniad i sawl ffactor cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, sy’n effeithio ar ein gallu i fyw ‘bywyd da’. Yn aml, mae’r ffactorau hyn yn rhyngweithio â’i gilydd, gan greu anghydraddoldebau systematig yng ngallu pobl i brofi lles.  Er enghraifft, un broblem ar gyfer rhagnodi cymdeithasol yw ei fod yn dibynnu ar atgyfeiriadau gan feddygon teulu, ond mae rhai grwpiau o’r boblogaeth yn dueddol o beidio ag ymweld â’r meddyg.

Drwy ddod â thrigolion lleol, grwpiau cymunedol, llunwyr polisïau ac academyddion at ei gilydd mewn ‘cymuned ymarfer’, byddwn ni’n creu ffyrdd i’r holl bobl hyn rannu eu gwahanol fathau o wybodaeth am les, rhagnodi cymdeithasol ac anghydraddoldebau.

Rhwydwaith SPARC

Daeth y prosiect i’r amlwg drwy ein gwaith fel grŵp o ymchwilwyr academaidd a phartneriaid ymarfer o Gymru, Lloegr a’r Alban, a sefydlodd rwydwaith SPARC yn 2022. Mae ganddon ni i gyd ddiddordeb mewn ymagweddau ar sail asedau tuag at ragnodi cymdeithasol, sy’n adeiladu ar asedau cymunedol a chryfderau pobl i wella lles, ac o dyna lle daw enw’r grŵp: ‘Asedau Rhagnodi Cymdeithasol a Pherthnasoedd mewn Cymunedau’. Mae ganddon ni hefyd ddiddordeb mewn ymagweddau ar sail asedau tuag at ymchwil, gan gynnwys ‘ymchwil weithredol’, sef ymagwedd gyfranogol sydd â nod penodol o drawsnewid anghydraddoldebau. Rydyn ni’n awyddus i ddeall p’un a all cyfuno’r ymagweddau arfer ac ymchwil hyn leihau anghydraddoldebau systematig mewn lles.

Drwy ein cyfarfodydd rheolaidd, rydyn ni’n dysgu o brosiectau cyfredol ein gilydd. Drwy gynnal astudiaeth gwmpasu ar y cyd a chyd-lunio papur safbwynt a cheisiadau am grantiau, rydyn ni wedi dod i ddeall sut i gyfuno dulliau ymchwil cyfranogol gydag ymagweddau arloesol tuag at ragnodi cymdeithasol ein partneriaid ymarfer. Ein damcaniaeth arweiniol yw bod angen i randdeiliaid, er mwyn trawsnewid anghydraddoldebau systematig, roi asedau ac anghenion cymunedol yn ganolog i’r ymdrechion i gyd-gynhyrchu rhagnodi cymdeithasol gyda chymunedau.

Arian sbarduno WISERD

Rhoddwyd hwb cychwynnol i’r rhwydwaith a’r prosiect ymchwil presennol gan WISERD yn 2018. Hwylusodd cyd-gyfarwyddwr WISERD ar y pryd, Howard Davis, a Phennaeth yr Ysgol, Martina Feilzer, weithdy traws-ddisgyblaethol i greu ymdeimlad o gymuned yn dilyn ailstrwythuro ysgolion yn y Brifysgol.

Fel ymchwilydd PhD, roeddwn i’n rhan o grŵp a oedd yn rhannu syniadau ar gyfer ymchwil yn seiliedig ar y Gymraeg, cymunedau, a rhagnodi cymdeithasol. Aeth fy nghyd-oruchwyliwr ar y pryd, Dr Koen Bartels, â’r syniad yn ei flaen a dyfarnodd WISERD rywfaint o arian sbarduno i ni. Aethon ni ati i ymgysylltu ag ystod eang o ymarferwyr ac ymchwilwyr academaidd, cynnal adolygiad llenyddiaeth thematig, a datblygu ffocws ymchwil ar drawsnewid cyfrifoldebau ac anghydraddoldebau lles.

Fe wnaeth cefnogaeth gychwynnol WISERD ein galluogi ni i ddenu grantiau pellach ac ehangu’r rhwydwaith. Yn 2019, cynhalion ni weithdy meithhrin partneriaethau gyd chyd-nawdd gan y Sefydliad Llywodraeth Leol (INLOGOV) a’r Sefydliad ar gyfer Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Birmingham. Yn 2022, darparodd Prifysgol Birmingham gyllid o’i rhaglen cymorth Covid hefyd. Datblygon ni bapur safbwynt ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, a chynhyrchu llyfryddiaeth anodedig o lenyddiaeth lwyd ac academaidd, gyda chymorth cydymaith ymchwil INLOGOV Owen Powell.

Ein gobaith fel rhwydwaith yw y bydd y prosiect ymchwil 12 mis hwn, a ariennir gan Gronfa Ymchwil Gyfranogol Research England, yn gweithredu fel peilot ar gyfer astudiaeth gymharol mwy o faint o ymagweddau ar sail asedau tuag at ragnodi cymdeithasol ar draws pedair gwlad Prydain.

Gwahoddiad

Mae rhwydwaith SPARC yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu sut i gyd-gynhyrchu gwell canlyniadau iechyd a lles a newid systemau gyda chymunedau lleol. Yn ogystal â’n sesiynau bob deufis, rydyn ni’n cynnig ystod o adnoddau, gan gynnwys grŵp LinkedIn, llyfryddiaeth o waith perthnasol, ac allbynnau ymchwil eraill. Os hoffech ymuno â ni, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ebost neu drwy LinkedIn.

 

Llun: SolStock drwy iStock.


Share