Ton Streiciau’r Deyrnas Unedig: ‘ydy’r genie allan o’r botel’?


Sign saying 'service disrupted'

Daeth 2023 â thon newydd o streiciau yn dilyn chwe mis o weithredu diwydiannol cynyddol ar draws y wlad. Pleidleisiodd mwy a mwy o weithwyr, gan gynnwys rhai mewn rolau allweddol yn y sector cyhoeddus, dros weithredu diwydiannol, yn aml gyda mwyafrifoedd enfawr ymhell dros ben y trothwy pleidleisio uchel a osodwyd gan ddeddfwriaeth y llywodraeth gyda’r nod o wneud streicio’n anoddach. Er bod cyflog yn sicr wrth wraidd yr anghydfodau hyn, mae gweithwyr hefyd yn cyfeirio at amodau gwaith sy’n dirywio a’u penderfyniad i ddiogelu’r gwasanaethau y maent yn eu darparu fel cymhellion craidd ar gyfer eu penderfyniad i streicio.

Trwy gydol ail hanner 2022 arweiniwyd y cynnydd mewn streiciau gan dri undeb i raddau helaeth – Unite yn y sector preifat ehangach, yr RMT ar y rheilffyrdd a’r CWU ym maes y post a thelathrebu. Erbyn diwedd mis Ionawr 2023, roedd athrawon, gweision sifil, staff ambiwlans, nyrsys, gyrwyr trenau, ffisiotherapyddion, bydwragedd, staff prifysgolion a gweithwyr ar draws gwahanol rannau o’r sector preifat i gyd wedi pleidleisio o blaid streicio. Ym mis Ionawr cynhaliwyd 282 o streiciau gwahanol ar draws y Deyrnas Unedig, ar 1 Chwefror roedd hanner miliwn ar streic ac ar 15 Mawrth bu 700,000 yn gweithredu ar y cyd.

Mae graddfa a chwmpas yr aflonyddwch diwydiannol yn 2023 yn unigryw ac yn mynnu ein sylw. Er enghraifft, y bleidlais dros streicio gan y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yw’r gyntaf ym Mhrydain ar hyd 106 mlynedd ei hanes. Yn yr un modd, am y tro cyntaf erioed, pleidleisiodd Cymdeithas yr Adran Gyntaf yn Ffrwd Carlam y Gwasanaeth Sifil – uwch weision sifil y dyfodol – o blaid streicio. Mae hyd yn oed Amazon bellach yn wynebu streic gyntaf y cwmni gan ei weithwyr – y mae 700 ohonynt wedi ymuno ag Undeb y GMB yn Coventry – ac wedi cael 98% o blaid streicio yn y bleidlais. Mae hyn yn wahanol iawn i’r achosion digymell lle bu gweithwyr yn gadael eu gwaith yn y gorffennol.

Mae arweinwyr undebau llafur yn amlygu nifer o ffactorau pwysig dylanwadol. Y mwyaf amlwg o bosib yw’r argyfwng costau byw sy’n cael ei brofi ar draws y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd. Rydym wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn chwyddiant ers 40 mlynedd. Mae’n anochel bod y cynnydd ym mhrisiau rhai eitemau wedi bod yn ergyd galed i weithwyr. Mae chwyddiant bwyd ar 19.2%, ac yn dal i godi; yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2023 roedd ar ei lefel uchaf ers 45 mlynedd, tra bod nwy ar 129% a thrydan ar 67%.   Mae tlodi mewn gwaith yn golygu bod nyrsys dan hyfforddiant, cynorthwywyr addysgu, gweithwyr ffatri, cynorthwywyr manwerthu, gyrwyr cyflenwi a gweithwyr lletygarwch bellach ymhlith y rhai sy’n defnyddio banciaubwyd yn rheolaidd. Mae prisiau chwyddiant yn gwaethygu effaith cyflogau sydd wedi bod yn ddisymud cyhyd. Nododd y Resolution Foundation, er enghraifft, ‘ein bod ar y llwybr cywir i sicrhau’r degawd gwaethaf o ran twf enillion go iawn ers 210 o flynyddoedd’.

Teimlwyd effaith y datblygiadau hyn ar draws yr economi. Ond mae’r toriadau a’r rhewi ar gyflogau go iawn wedi cael effaith arbennig o galed ar weithwyr sector cyhoeddus, hyd yn oed i’r graddau fel bod undeb y gwasanaeth sifil, PCS, wedi datgelu ym mis Ionawr fod y llywodraeth wedi bod yn talu llai na Chyflog Byw Cenedlaethol 2023 i filoedd o’i gweithwyr ei hun yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae arweinwyr undebau llafur hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd cyflog cymdeithasol – ar ffurf ein gwasanaethau cyhoeddus – sydd hefyd yn wynebu ymosodiadau parhaus.  Torrodd rhaglen o gyni degawd o hyd yn ddwfn i mewn i faes cyhoeddus lle roedd angen dybryd am fuddsoddi eisoes. Ers 2010, mae buddsoddi fel cyfran o’r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) wedi gostwng, fel y mae buddsoddiad llywodraeth y Deyrnas Unedig o gymharu â gwledydd eraill tebyg.

Y GIG yw’r gwasanaeth cyhoeddus amlycaf, ac mae’n enghraifft berffaith o’r problemau sy’n wynebu’r sector cyhoeddus yn gyffredinol. Mae tanfuddsoddi yn staffio, seilwaith a thechnoleg y GIG wedi arwain at fwy o bwysau a straen ar y gweithlu ac wedi cael effaith niweidiol ar safonau gwasanaeth gan arwain at bryderon iechyd cyhoeddus ehangach.

Dyma’r cyd-destun ar gyfer ethol grŵp newydd o arweinwyr mwy ymosodol i’r undebau – fel Sharon Graham yn Unite (etholwyd yn 2021), Mick Lynch yn yr RMT (a etholwyd yn 2021 hefyd) a Dave Ward yn y CWU (etholwyd yn 2015). Efallai bod eu hethol yn arwydd o naws newidiol yn eu sefydliadau eu hunain – mynnu gweithredu – dan bwysau cronnus digwyddiadau.

Ac mae’r farchnad lafur yn tynhau wrth i faint y llafurlu ostwng (o ganlyniad i sawl ffactor gan gynnwys mwy o weithwyr ymddeol yn gynnar, afiechyd cynyddol ac effaith Brexit). Mae hyn yn golygu ei bod yn anoddach i gyflogwyr gael hyd i weithwyr newydd yn hwylus, sy’n golygu bod gan y weithwyr fwy o allu i fargeinio am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer. Mae hyn yn darparu manteision penodol i rai grwpiau o weithwyr: trwy Unite, mae gweithwyr mewn llawer o gwmnïau ac mewn sawl rhan o’r wlad wedi ennill codiadau cyflog sylweddol (er enghraifft gyrwyr tancer Asda, gyrwyr tancer Wincanton a gwarchodwyr diogelwch a gyflogir gan OCS).

.

Cyfeirir at yr holl ffactorau hyn fel rhai sy’n ysgogi’r dosbarth gweithiol a’r undebau. Yng ngeiriau ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham:

Mae mwy o bobl yn teimlo’n hyderus i weithredu drwy streicio, rhywbeth sydd heb ddigwydd ers amser maith… Mae’r gweithwyr yn dysgu o ddydd i ddydd nad oes rhaid iddynt dderbyn briwsion o fwrdd y dyn cyfoethog mwyach. Mae’r genie allan o’r botel…


Share