Sut ffurf allai fod ar ‘hawl i ddatgysylltu’ o waith yn y DU


Person working from home

Mae llywodraeth newydd y DU wedi addo gweithredu i “hyrwyddo cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith i bob gweithiwr”, ac i atal cartrefi rhag “troi’n swyddfeydd 24/7”. Mae’r risg o weithio “bob amser ar gael” wedi cynyddu ers y pandemig, gyda thechnoleg yn golygu bod gwaith yn aml o fewn cyrraedd hawdd.

Mae deddfwriaeth sy’n caniatáu i weithwyr ddatgysylltu o waith wedi’i mabwysiadu’n gynyddol ledled Ewrop, i gydnabod yr effaith niweidiol y gall gofynion gwaith diddiwedd ei chael ar les a bywyd teuluol.

Canfu adolygiad o ddata o 183 o wledydd lefelau sylweddol uwch o glefyd y galon a strôc ar gyfer y rhai sy’n gweithio oriau hir. Ac mae cydnabyddiaeth gynyddol o effeithiau negyddol gweithio estynedig ar iechyd meddwl. Gall gweithluoedd sâl niweidio cynhyrchiant hefyd.

Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd diwrnodau gwaith y rhan fwyaf o bobl yn cynnwys teithio i weithle lle bydden nhw am tua wyth awr, ac wedi hynny bydden nhw’n dychwelyd adref i ymlacio ac i ymadfer. Roedd gwyliau hefyd yn adegau pan allai pobl gymryd seibiant llwyr o’r gwaith.

Mae “parthau dim signal” ac ardaloedd lle mae’r rhyngrwyd yn wan yn dal i fodoli, ond maen nhw’n lleihau o ran nifer. Felly prin yw’r lleoedd y gall pobl ddianc yn llwyr o’u gwaith. Mae cymdeithasegwyr wedi cyfeirio at y disgwyliad y gellir cysylltu â gweithwyr bob amser fel y “gwaedlif presenoldeb”.

Yn y DU, cododd cyfran y gweithlu a ddywedodd eu bod yn gweithio gartref yn bennaf o 6% i 43% dros nos pan roddwyd cyfyngiadau clo ar waith. Ers hynny mae’r ffigur hwn wedi disgyn yn ôl i 14%, ond mae tua chwarter y gweithwyr yn dweud eu bod bellach yn gweithio ar ffurf hybrid.

Yn nodweddiadol mae gan y gweithwyr hyn fwy o ymreolaeth dros eu hamser gwaith – ac mae gweithwyr cartref yn aml yn dweud eu bod yn fwy cynhyrchiol wrth weithio gartref yn hytrach na’r swyddfa, oherwydd bod llai o bethau sy’n tynnu eu sylw. Gwelwyd buddion eraill ynglŷn â mwy o gynwysoldeb staff, lle’r oedd ymrwymiadau gofal neu gyfyngiadau iechyd wedi’i gwneud hi’n anodd gweithio oriau arferol mewn swyddfeydd yn y gorffennol.

Fodd bynnag, gall y buddion hyn ddod ar gost. Mae’r rhai sy’n gweithio gartref yn aml yn gysylltiedig â gwaith am gyfnod hwy, ac yn fwy tebygol o fod yn e-bostio neu’n cymryd galwadau fideo y tu allan i’w horiau craidd.

Yn anochel, gall pwysau gwaith lifo drosodd i fywyd nad yw’n waith, gyda gweithwyr cartref yn adrodd am anawsterau o ran gallu datgysylltu o’r gwaith neu ymlacio. Gall hyn fod yn waeth pan fydd yn rhaid i bobl weithio mewn mannau a gaiff eu defnyddio fel arall at ddibenion domestig, fel bwrdd yr ystafell fwyta neu yng nghornel ystafell wely. Gall hyn fod yn arbennig o wir yn achos pobl ifanc.

Gall hefyd fod yn anodd i weithwyr iau ar ddechrau eu gyrfaoedd, a staff eraill â statws is, herio galwadau i fod yn ymatebol y tu hwnt i’w horiau cytundebol. O ganlyniad, gall hyn arwain at gamfanteisio arnyn nhw’n haws.

Yr hawl i ddatgysylltu

Gallai hawl gyfreithiol i ddatgysylltu gynnwys peidio â chael anfon e-bost neu gysylltu â staff mewn modd arall ar ôl amser penodol neu yn ystod eu gwyliau, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Neu allai olygu peidio â threfnu cyfarfodydd y tu allan i oriau craidd – rhywbeth a allai fod o fudd arbennig i rieni plant ifanc.

Mae rhestr y gwledydd sy’n defnyddio’r dull rhagweithiol hwn yn tyfu’n gyflym. Er bod deddfwriaeth wedi’i chyflymu weithiau gan dwf gweithio hybrid, gall fod yn berthnasol i bobl lle bynnag y maen nhw’n gweithio. Roedd Gwlad Belg, Iwerddon a’r Eidal yn gweithredu yn y maes hwn cyn i’r pandemig ddechrau, pan oedd y gwaith yn bennaf ar safleoedd. Mae gwledydd eraill fel Sbaen, Portiwgal ac Awstralia yn dilyn.

Fodd bynnag, nid yw’r modelau deddfwriaethol a gaiff eu defnyddio’n gynhwysfawr – mae gwendidau a bylchau. Yng Ngwlad Belg, nid yw’r gyfraith ond yn mynnu bod cyflogwyr yn cadw at fframwaith cyffredinol ar gyfer yr hawl i ddatgysylltu (a elwir yn “ddull meddal”). Mae hyn yn rhoi rhwydd hynt i gwmnïau yn y modd y caiff yr hawl ei weithredu. Yn y DU, mae cyflogwyr eisoes wedi lleisio eu dymuniad i rai gweithwyr – fel uwch staff – gael yr hawl i optio allan o unrhyw gyfraith newydd.

Mewn gwirionedd, roedd 58% o’r arweinwyr busnes a arolygwyd gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn gwrthwynebu’r hawl i ddatgysylltu. Roedd ei adroddiad yn cynnwys honiad y gallai deddfwriaeth greu diwylliant o “helwyr ambiwlansys” yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn eu cyflogwyr. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi’i adrodd eto mewn gwledydd sy’n gweithredu rhyw fath o hawl i ddatgysylltu.

Yn gyffredinol, mae gwledydd sydd â’r cyfreithiau hyn yn pennu eithriadau mewn rhai sectorau, megis hedfan a meddygaeth. Mae hefyd wedi bod yn gyffredin i gyflogwyr llai gael eu heithrio: mae deddfwriaeth Ffrainc yn berthnasol i gwmnïau sydd â mwy na 50 o weithwyr. Ac eto, mae busnesau bach a chanolig (BBaCh) yn cyfrif am fwy na 61% o gyflogaeth y DU, felly gallai rhan fawr o’r gweithlu gael ei heithrio oni bai bod amddiffyniad wedi’i gynllunio’n fwy cynhwysol.

Pryder arall yw, os yw’r sancsiynau am beidio â chydymffurfio yn wan, y gallai deddfwriaeth neu (fel sy’n fwy tebygol) god ymarfer fod yn deigr di-ddannedd. Er bod cyflogwyr sydd wedi buddsoddi yn yr achos busnes dros weithio hyblyg wedi datblygu arferion da arloesol yn aml, i’r rhai sy’n llai brwd amdanyn nhw, mae deddfwriaeth yn darparu amddiffyniad pwysig i weithwyr wrth ysgogi sefydliadau i weithredu.

Mae hefyd yn bwysig ystyried pam mae oriau gwaith estynedig yn cael eu mynegi o ran cysylltedd digidol: “datgysylltu”. Mae lle i iaith polisi gael ei fframio’n fwy cynhwysol i gwmpasu’r pwysau ar ystod ehangach o weithwyr sy’n wynebu oriau hirach – efallai gan gynnwys y rhai sy’n gweithio yn yr economi gig.

Mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu bod gwaith goramser di-dâl yn gyffredin ac nad yw wedi’i gyfyngu i’r rhai sy’n gweithio gartref: Gwnaeth 3.8 miliwn o bobl waith goramser di-dâl yn 2023.

Er mwyn gwneud yr hawl i ddatgysylltu yn effeithiol ac yn ystyrlon, mae angen dewis y materion hyn yn ofalus wrth i’r llywodraeth drosi ei haddewidion cyn yr etholiad yn gamau gweithredu. Fel bob amser, dylid aros i weld y manylion.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn The Conversation dan drwydded Creative CommonsDarllenwch yr erthygl wreiddiol.

Argraffwyd yr erthygl hon hefyd yn y Western Mail (t27) ar 31/07/24.


Share