Mae Dr Emily Lowthian yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Cyflwynodd Emily ei hymchwil gyda Dr Rebecca Anthony, a Georgia Fee mewn seminar amser cinio WISERD ym mis Mawrth.
Mae ymddygiadau cyfathrebu ar-lein, fel defnyddio cyfryngau cymdeithasol, yn aml yn cael eu derbyn yn negyddol yn y cyfryngau torfol yng nghyd-destun iechyd meddwl pobl ifanc. Yn 2020, daeth galwad gan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion am fwy o ymchwil o ansawdd i archwilio’r niwed posibl a sut i harneisio technoleg ddigidol, o ystyried ei bod “yma i aros ”.
Mae ein hymchwil gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd wedi ymateb i rai o alwadau’r adroddiad hwn drwy ddadansoddi data presennol ar ymddygiadau dros 1,400 o bobl ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol ac ac wrth gyfathrebu ar-lein ym mis Tachwedd 2020.
Aethom ati i ddadansoddi pa mor aml yr oeddent yn postio fideos, lluniau, cerddoriaeth, ynghyd â pha mor aml y mae pobl ifanc yn siarad â ffrindiau (gan gynnwys ffrindiau ar-lein, sef ffrindiau nad ydynt yn eu gwneud nac yn eu cyfarfod mewn bywyd go iawn), teulu, ac ‘unrhyw un arall’, yn ogystal ag amlder cyfranogiad gwleidyddol, defnydd o gemau cyfrifiadurol, a theimladau am yr amser maent yn ei dreulio ar-lein.
Aethom ati i archwilio a yw ymddygiadau pobl ifanc yn ‘grwpio gyda’i gilydd’ i ffurfio patrymau o broffiliau ymddygiad cyfathrebu ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Yna, aethom ati i ymchwilio i les meddyliol, corfforol a chymdeithasol y proffiliau ymddygiad cyfryngau cymdeithasol, a nodi pwy allai fod mewn perygl ar gyfer pob proffil yn ôl oedran neu ryw. Drwy gydol yr ymchwil, bu i ni gynnwys dau grŵp cynghori ieuenctid yn cynnwys aelodau o i helpu i lywio ein prosiect.
Patrymau ymddygiad cyfryngau cymdeithasol
Dan arweiniad safbwyntiau’r grŵp cynghori ieuenctid, gwnaethom nodi pedwar proffil cyfryngau cymdeithasol ac ymddygiadau ar-lein: y defnyddwyr Brwd, y defnyddwyr Hanner Ffordd, yr Ysgolheigion a’r Teithwyr; cyd-ymchwiliwyd i’r enwau gan y grwpiau cynghori pobl ifanc.
Roedd y defnyddwyr Brwd yn grŵp a oedd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fwyaf; roedd tua thraean yn postio lluniau, cerddoriaeth neu fideos bob dydd, ac roedd y gweddill yn aml yn postio’n wythnosol. Roedd dros hanner yn siarad ag ‘unrhyw un’ ar-lein yn ddyddiol, ac roedd gan 50% ffrindiau ‘rhyngrwyd yn unig’; er bod 87% yn siarad â ffrindiau bob dydd, a 57% yn siarad â’r teulu yn ddyddiol ar-lein.
Roedd gweithgarwch y defnyddwyr Hanner Fforddyn fwy cymhleth, gyda dim ond 15% yn siarad â ffrindiau ‘rhyngrwyd yn unig’ a 58% prin byth neu byth yn siarad ag unrhyw un y tu allan i ffrindiau neu deulu. Roedd bron i hanner eisiau treulio llai o amser ar-lein ac yn postio yn llai rheolaidd, ond roedd gan bron pob person ifanc broffil cyfryngau cymdeithasol.
Roedd y grwpiau eraill yn cynnwys yr Ysgolheigion, a oedd yn grŵp o bobl ifanc a oedd yn ymgymryd â gwaith ysgol rheolaidd, yn derbyn newyddion, ac yn cymryd rhan mewn trafodaethau gwleidyddol bob dydd neu fwy. Nid oeddent yn postio llawer o gynnwys cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd, ac yn gyffredinol roeddent am dreulio’r un amser (47%) neu lai (40%) ar-lein, ond roedd gan 25% ffrindiau ‘rhyngrwyd yn unig’.
Y Teithwyr oedd â’r ymgysylltiad lleiaf ar-lein, gyda dim ond 63% â phroffil cyfryngau cymdeithasol. Roedd dros chwarter nad oeddent erioed wedi postio lluniau, fideos na cherddoriaeth. Roedd y grŵp hwn wedi’i hollti ar eu dyheadau i dreulio mwy (22%) neu lai (31%) o amser ar-lein, gyda thua hanner yn dweud eu bod am iddo fod yr un peth. Roedd tua dau o bob tri nad oeddent erioed wedi siarad ag ‘unrhyw un’ ar-lein, a bron i bob un ohonynt heb ffrindiau ‘rhyngrwyd yn unig’; nid oedd y grŵp hwn yn siarad â ffrindiau na theulu yn rheolaidd ar-lein.
Effaith ar les
Defnyddwyr Brwd oedd â’r amcangyfrif uchaf o broblemau emosiynol, er enghraifft hwyliau isel. Roedd hyn yn digwydd ar yr un pryd pan gasglwyd yr ymddygiadau cyfryngau cymdeithasol, ac eto bum mis yn ddiweddarach – gan awgrymu perthynas barhaus rhwng y cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl. Roedd ganddynt hefyd gyfartaledd uwch o broblemau ymddygiad, hynny yw, ymddygiad ymosodol neu wrthgymdeithasol; parhaodd hyn bum mis yn ddiweddarach, ond i raddau llai. Y defnyddwyr Hanner Ffordd, y rhai â defnydd cymhleth o’r cyfryngau cymdeithasol, oedd yr ail grŵp uchaf ar gyfer problemau emosiynol, a pharhaodd hyn dros amser. Fodd bynnag, roedd gan bob grŵp arall lefelau tebyg o broblemau ymddygiad.
Y defnyddwyr Brwd oedd y rhai mwyaf tebygol o gael problemau cysgu. Roedd tua 16% yn deffro ‘trwy’r amser’, neu’r ‘rhan fwyaf o’r amser’ – roedd hyn yn llawer uwch na’r grwpiau eraill; nhw hefyd oedd y mwyaf tebygol o gael llai nag wyth awr o gwsg y noson. Yr Ysgolheigion oedd y rhai mwyaf tebygol o gael wyth i 10 awr y noson (81%), ac yn aml roedd y Teithwyr yn cael dros 10 awr o gwsg y noson.
Y defnyddwyr Hanner Ffordd oedd â’r nifer cyfartalog isaf o ffrindiau agos (tua phedwar), ac yna’r defnyddwyr Brwd (tua chwech); roedd gan yr Ysgolheigion a’r Teithwyr oddeutu wyth. Ar y cyfan, roedd teimladau o gael eu cefnogi gan ffrindiau yn debyg ar draws grwpiau – ond yr Ysgolheigion oedd yn teimlo’r gefnogaeth fwyaf, o gymharu â’r Teithwyr a oedd yn ei deimlo leiaf. O ran cymorth teuluol, roedd graddiant clir i’w weld lle’r oedd yr Ysgolheigion yn teimlo’r gefnogaeth fwyaf ac yna’r Teithwyr, y defnyddwyr Hanner Ffordd a’r defnyddwyr Brwd.
Y defnyddwyr Brwd oedd y rhai mwyaf tebygol o deimlo’n unig ‘trwy’r amser’ a ‘rhywfaint o’r amser’; er, roedd yr Ysgolheigion a’r defnyddwyr Hanner Ffordd yn teimlo’n unig ‘beth o’r amser’ i raddau tebyg. O ran ymddangosiad, y defnyddwyr Hanner Ffordd a’r rhai Brwd oedd yn sgorio eu hymddangosiad isaf.
Pwy oedd ym mhob grŵp?
Roedd Teithwyr ac Ysgolheigion yn fwy tebygol o fod â rhieni â chymwysterau addysgol uwch. Ond, roedd merched a phlant hŷn yn llai tebygol o fod yn Deithwyr – y grŵp â’r lles uchaf – gan awgrymu cadarnhad gydag astudiaethau eraill bod merched a phlant hŷn yn fwy tebygol o fod yn weithredol ar-lein, ac ar yr un pryd mewn perygl o ddioddef lles is.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae ein hymchwil yn nodi y gall rhai ymddygiadau cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu ar-lein gydfodoli a bod â pherthynas negyddol â lles yn feddyliol, yn gorfforol ac yn gymdeithasol. Gan adeiladu ar ymchwil arall, gwelwn ei bod yn ymddangos bod postio cynnwys yn rheolaidd (bob dydd yn aml) a siarad â ffrindiau ‘rhyngrwyd yn unig’ yn gysylltiedig â lles is. Felly, rydym yn awgrymu bod pobl ifanc a’u gofalwyr yn gwirio eu teimladau yn rheolaidd mewn perthynas â’u defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol ac yn nodi meysydd a allai fod yn achosi pryder.
Cafeat bach!
Mae ein gwaith yn cynnig cysylltiadau yn unig ac ni all gadarnhau perthynas glir rhwng cyfryngau cymdeithasol a lles. Rydym yn annog cynnal mwy o waith i ddeall sut mae pobl ifanc sydd â heriau lles presennol yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol o’u cymharu â phobl ifanc sy’n nodweddiadol iach, gan ein bod yn disgwyl y gallai fod perthynas i’r gwrthwyneb hefyd.
Ymchwilwyr: Dr Emily Lowthian, Dr Rebecca Anthony, Georgia Fee