Chweched Cynhadledd yr Economi Sylfaenol: Archwilio’r Economi Sylfaenol ar gyfer Pontio Cyfiawn


6th Foundational Economy Conference - banner with name and date of conference

14-16 Medi 2023

Prifysgol Technoleg, Fienna (TU Wien), Awstria

Galwad am Bapurau a Chyfraniadau

Rhwng 14 a 16 Medi 2023, byddwn yn croesawu’r 6ed Cynhadledd Economi Sylfaenol yng nghanol Fienna! Yn ystod ein cynhadledd bydd prif siaradwyr a sesiynau llawn, sesiynau cyfochrog yn ogystal â gweithgorau a theithiau cerdded yn y ddinas.

Mae argyfyngau lluosog – rhyfel, cynhesu byd-eang, trychinebau naturiol, newyn ac anghyfiawnder cymdeithasol – yn cynhyrchu mwy o ansicrwydd ymhlith poblogaethau ac yn sbarduno’r chwilio am ddiogelwch a sefydlogrwydd. Mae amddiffyn, cryfhau ac ehangu nwyddau a gwasanaethau sylfaenol hygyrch, fforddiadwy a chynaliadwy felly yn gonglfaen trawsnewidiad eco-gymdeithasol a all sicrhau anghenion sylfaenol pawb.

Mae’r gynhadledd hon yn dod ag academyddion ac ymarferwyr ynghyd i ymgysylltu’n feirniadol â’r cysyniad o’r Economi Sylfaenol ac archwilio’r potensial ar gyfer cryfhau ac adeiladu systemau sylfaenol gwell. Un pryder allweddol felly yw rhoi ymagweddau at yr Economi Sylfaenol mewn sgwrs â safbwyntiau ffeministaidd a chroestoriadol ar ddarpariaeth gymdeithasol a thrawsnewid eco-gymdeithasol.

Rydym yn gwahodd ymchwilwyr, ymarferwyr a sefydliadau i gyflwyno:

  • papurau academaidd unigol neu ar y cyd (damcaniaethol-cysyniadol, methodolegol a/neu empirig).
  • papurau polisi unigol neu ar y cyd
  • sesiynau thematig wedi’u hunan-drefnu gyda 2-3 o bapurau academaidd a/neu bolisi yn ogystal â
  • sesiynau panel hunan-drefnu yn canolbwyntio ar ymarfer

Dylai crynodebau fod rhwng 500 a 1000 o eiriau. Rydym yn annog yn gryf y dylid cyflwyno sesiynau cyfochrog sy’n cynnwys gwahanol fathau o fewnbwn (e.e. cyfuniad o ymchwil ysgolheigaidd, papurau polisi a chyfraniadau gan ymarferwyr) ac yn mynd ati i greu gofod ar gyfer trafodaeth ryngweithiol a dysgu ar y cyd.

Cofrestru

https://www.tuwien.at/ar/ifip/fec23

Terfynau amser

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 15 Ebrill 2023

Hysbysiad derbyn ar gyfer sesiynau panel wedi’u hunan-drefnu sy’n canolbwyntio ar ymarfer: canol mis Mai 2023

Hysbysiad derbyn ar gyfer papurau academaidd a pholisi: dechrau/canol Mehefin 2023

Er mwyn i bapurau gael eu cynnwys yn rhaglen y gynhadledd mae’n rhaid i o leiaf un awdur gofrestru ar gyfer y gynhadledd erbyn 3 Gorffennaf 2023

Er mwyn i sesiwn gyfochrog lawn gael ei chynnwys yn rhaglen y gynhadledd mae’n rhaid i’r grŵp neu’r sefydliad a’i cyflwynodd ei chadarnhau erbyn 3 Gorffennaf 2023

Ewch i wefan TU WIEN i gofrestru eich lle ac i gael rhagor o wybodaeth am themâu a materion ar gyfer papurau a chyfraniadau i sesiynau cyfochrog. Byddwch hefyd yn dod o hyd i amserlen dros dro o’r gynhadledd a manylion cyswllt ar gyfer trefnwyr y digwyddiad.

Sylwch, Saesneg yw iaith y gynhadledd.


Share