A all cwmnïau cydweithredol/busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr wella ‘swyddi gwael’?


Cyflwynodd Dr Wil Chivers ei ymchwil i ansawdd swyddi mewn sectorau tâl isel i Ganolfan Gydweithredol Cymru mewn seminar. Roedd ei gyflwyniad, a roddwyd ar y cyd â Dr Sarah Jenkins o Ysgol Busnes Caerdydd, yn gofyn: “A all cwmnïau cydweithredol/busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr wella ‘swyddi gwael’?”

Mae ansawdd swyddi wedi cael mwyfwy o sylw gan academyddion a llunwyr polisïau ar draws gwledydd wedi’u diwydianeiddio. Er hynny, dim ond nifer fach o asesiadau sydd wedi’u gwneud o effaith ffurfiau sefydliadol gwahanol, gan gynnwys cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, ar ansawdd swyddi.

Er y diddordeb cynyddol mewn sut mae cwmnïau cydweithredol/busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr yn cael effaith ar ganlyniadau gweithwyr, nid yw asesiadau cynhwysfawr o’r amrywiaeth o ganlyniadau na’r rhesymau dros y gwahanol ganlyniadau yn y lleoliadau hyn wedi’u datblygu’n ddigonol.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae’r astudiaeth yn ystyried a all cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr wella swyddi ‘gwael’ drwy edrych ar dair astudiaeth achos fanwl ac ansoddol o ffurfiau sefydliadol gwahanol yn sectorau tâl isel yr economi yng Nghymru: gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a gweithgynhyrchu.

Mae’r astudiaeth yn ceisio cyfrannu at asesiadau academaidd diweddar o ganlyniadau gweithwyr i ystyried a yw gwahanol ffurfiau sefydliadol, gan gynnwys cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr, yn dylanwadu ar ansawdd swyddi. Maent yn helaethu trafodaethau presennol ynghylch esboniadau amlwg ar gyfer ansawdd swyddi drwy ddatblygu asesiad cyd-destunol i ystyried i ba raddau y gall cyfranogwyr yn y gweithle wella swyddi ‘gwael’.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ym mhapur diweddar Dr Chivers gyda Dr Sarah Jenkins o Ysgol Busnes Caerdydd.


Rhannu