Ar eich beic: archwilio daearyddiaeth a hamdden gwaith cludwr ar feic


Mae Dr Wil Chivers, a benodwyd yn ddiweddar yn ddarlithydd gwyddorau gymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cyflwyno canfyddiadau o’i ymchwil WISERD sy’n archwilio natur gwaith fel cludwr ar feic yn yr economi gig/platfformau, yng Nghynhadledd Gwaith, Cyflogaeth a Chymdeithas 2021.

Mae’r papur, On Your Bike: Exploring the geography and leisure of work as a cycle courier, yn cyflwyno canfyddiadau o brosiect ethnograffig sy’n dilyn profiadau gwaith dyddiol cludwyr ar feiciau sy’n gweithio i gwmnïau cyflenwi bwyd Caerdydd: Deliveroo, Uber Eats, a Stuart.

Thema sy’n rhedeg trwy lawer o ddisgrifiadau beirniadol o gyflogaeth yn yr economi gig/platfformau yw amodau gwaith unigol sy’n ynysu. Er bod hyn yn nodwedd gynhenid swyddi fel cludo ar feic (a gall fod yn apelio at rai gweithwyr), gall diffyg cyswllt cymdeithasol neu broffesiynol â gweithwyr eraill effeithio ar les gweithwyr a chreu ymdeimlad o golli cymuned neu undod. Mae hyn, ymhlith pethau eraill, yn llesteirio’r posibilrwydd o weithredu ar y cyd.

Mae cludo ar feic yn swydd sy’n gorfforol iawn. Mae’n gofyn i weithwyr deithio’n bell am gyfnodau estynedig a symud o gwmpas seilwaith trefol eang a allai fod yn beryglus. Ni thelir am unrhyw ‘amser segur’.

Gan gamu’n ôl o’r dadleuon presennol ynghylch hawliau cyflogaeth a statws yn yr economi gig/platfformau, mae papur Dr Chivers yn archwilio natur cyflogaeth cludwyr ar feiciau o safbwynt daearyddiaeth a chymdeithasu yn lle’r materion hynny. Fe’i harweinir gan ddau gwestiwn cysylltiedig: “sut brofiad sydd gan gludwyr o ddaearyddiaeth drefol yn ystod eu gwaith”, a “sut mae ‘cymuned cludwyr’ yn cael ei chreu a’i chynnal?”

I gasglu data sylfaenol caiff cludwyr eu dilyn o amgylch y ddinas ar feic yn ystod eu horiau gweithio. Roedd teithiau ac ystadegau cysylltiedig (gan gynnwys pellter a chyflymder) yn cael eu mapio trwy GPS, gyda lluniau a fideos yn cael eu recordio a nodiadau maes yn cael eu hysgrifennu ar ddiwedd pob diwrnod yn seiliedig ar arsylwadau a sgyrsiau Dr Chivers â’r cludwyr.

Roedd cyfweliadau dilynol yn archwilio cwestiynau ynghylch sut mae cludwyr yn gweld daearyddiaeth eu ‘gweithle’ yn fanylach, o ran eu sifftiau dyddiol ac ochr gymdeithasol cludo.

Meddai Dr Chivers:

Gan ddefnyddio’r ffynonellau data amrywiol hyn, rwy’n dadlau bod gan y cludwyr ar feiciau farn ar ddaearyddiaeth drefol sy’n seiliedig ar effeithlonrwydd ond y gall rhesymeg weithredu benodol y platfformau penodol y maent yn gweithio drwyddynt effeithio ar yr ystyriaethau hyn. Rwyf hefyd yn awgrymu bod gweld strydoedd y ddinas fel gweithle yn sail ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a chymuned a all fod yn bwysig i les a chyfranogiad parhaus yn yr economi gig/platfformau.


Share