Mae Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Adam Hedgecoe, ac aelod cyswllt WISERD yr Athro Melanie Jones ymhlith Cymrodyr newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a gafodd eu hethol eleni.
Mae ymchwil yr Athro Hedgecoe yn ymdrin â’r ffordd y mae biofeddygaeth fodern wedi’i llunio’n gymdeithasol a’r rôl y mae geneteg glinigol yn ei chwarae wrth wneud penderfyniadau meddygol. Mae hefyd wedi gweithio’n helaeth ar reoleiddio ymchwil biofeddygol a’r ffordd y mae pwyllgorau moeseg ymchwil yn llunio canfyddiadau o’r hyn sy’n foesegol neu nad yw’n foesegol.
Mae’r Athro Jones yn economegydd empirig sy’n defnyddio dulliau meintiol i ddeall anghydraddoldeb yn y farchnad lafur yng Nghymru a’r DU, yn enwedig mewn perthynas â rhywedd ac anabledd. Mae hi’n cyhoeddi’r dystiolaeth hon mewn cyfnodolion rhyngwladol a’i defnyddio i lunio polisi ac arferion cyflogwyr.
Cafodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ei sefydlu yn 2010 yn absenoldeb cymdeithas ddysg genedlaethol yng Nghymru. Ei nodau yw cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, sy’n cynnwys cynnig cyngor annibynnol ac arbenigol i’r llywodraeth.
Mae cael eich ethol yn Gymrawd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, yn dilyn asesiad trylwyr o gyflawniadau academyddion yn eu meysydd perthnasol. Cydnabyddir unigolion o’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a’r gwasanaethau cyhoeddus. Darllenwch ragor ar wefan Cymdeithas Ddysgedig Cymru.