Bywyd yn ystod y cyfnod clo: Tystiolaeth o Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD 2020


news cover
Gwnaeth WISERD arolwg o bobl ifanc ym Mlynyddoedd 7-12 am eu profiadau dysgu gartref yn ystod haf 2020, yr hyn y maent yn ei golli ac a ddylid caniatáu iddynt weld ffrindiau.

Yn ogystal â gofyn am adnoddau ar gyfer gwaith ysgol, yr amser a dreuliwyd yn dysgu a mynd i’r ysgol yn ystod y cyfnod clo, gofynnon ni i bobl ifanc am eu pryderon, sut roeddent wedi bod yn helpu yn ystod y cyfnod clo a’u harferion dyddiol.

Hefyd, gofynnon ni iddyn nhw am eu diddordebau cyfnewidiol mewn gwleidyddiaeth, a gwybodaeth am ddatganoli yng nghyd-destun gwahanol reolau ynglŷn â’r cyfnod clo rhwng Cymru a Lloegr.

Bywyd yn ystod y cyfnod clo: Tystiolaeth o Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD 2020

 


Rhannu