Chris Taylor yn traddodi’r Ddarlith Medal Hugh Owen gyntaf


The Hugh Owen Medal

Mae academydd blaenllaw WISERD wedi rhybuddio cynulleidfa o’r sector addysg am y sialensau’n wynebu’r rheiny sy’n gweithredu cwricwlwm newydd Cymru.

Cymerodd Gyd-Gyfarwyddwr WISERD yr Athro Chris Taylor fantais o’r oedi i weithrediant y cwricwlwm newydd i amlinellu beth oedd yn ol ef yn gwestiynau hollbwysig i sichrau ei lwyddiant.

Derbyniodd yr Athro Taylor y Fedal Hugh Owen gyntaf gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru er mwyn cydnabod ei gyfraniad arloesol i ymchwil addysg yng Nghymru.

Yn dilyn ei ddarlith, dywedodd yr Athro Taylor: “Does dim gwadu bod chwant am newid i’r cwricwlwm yng Nghymru, ond mae beth yn union sydd angen newid – a pham – yn llai clir.

“Mae adeiladu consensws i gefnogi unrhyw gwricwlwm newydd yn dasg anodd. Mae gan Gymru sialensau penodol, fel diffyg ymchwil gweithredol o fewn ysgolion, a bygythiad cynyddol i addysg y wladwriaeth gan rhieni’n symud eu plant i’r sector dalu.

“Does dim ffordd cywir nac anghywir o ddatblygu a gweithredu cwricwlwm newydd, neu o feirniadu ei lwyddiant neu fel arall. Ond mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw’r dysgwyr mwyaf difreintiedig yn colli mas wrth i ni foderneiddio a diwygio’r system addysg.”

Cymerwch olwg ar uchafbwyntiau Twitter o’r ddarlith:


Rhannu