Mae Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Sally Power, wedi’i hethol i fod yn rhan o Gyngor Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain (BERA).
Mae BERA yn gymdeithas aelodaeth a dysgedig sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo ansawdd ymchwil, datblygu gallu ymchwil a meithrin ymgysylltiad ag ymchwil. Eu nod yw llywio datblygiad polisïau ac ymarfer trwy hyrwyddo’r dystiolaeth o’r ansawdd gorau a gynhyrchir gan ymchwil addysgol.
Dros y blynyddoedd, mae ymchwilwyr WISERD wedi cyflwyno eu gwaith yng nghynadleddau blynyddol BERA yn rheolaidd yn ogystal â chyfrannu at flog BERA. Fe wnaeth prosiect ymchwil WISERD Dyfodol Llwyddiannus i Bawb: Archwilio sut i Ddiwygio’r Cwricwlwm arwain at gyhoeddi rhifyn dwyieithog arbennig o Gyfnodolyn Cwricwlwm BERA.
Wrth gael ei hethol, dywedodd yr Athro Sally Power: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle i gyfrannu at genhadaeth BERA o feithrin ansawdd, gallu ac effaith ymchwil addysg ledled y DU ac yng Nghymru yn benodol.”
Darllenwch ragor am brosiectau ymchwil addysg WISERD.