Cyflwynodd yr Athro Kevin Morgan o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd ymchwil ar yr Economi Sylfaenol yng Nghomisiwn UK2070: Digwyddiad Rhanddeiliaid Cymru, a gynhaliwyd yn Ysgol Busnes Caerdydd ddoe.
Mae Comisiwn UK2070 yn archwiliad annibynnol i anghydraddoldebau ar draws dinasoedd a rhanbarthau’r DU. Yr Arglwydd Kerslake sy’n ei gadeirio, ac fe’i sefydlwyd i gynnal adolygiad o’r polisïau ac anawsterau gofodol sy’n gysylltiedig â datblygiad hirdymor dinasoedd a rhanbarthau’r DU.
Nod y Comisiwn yw nodi agenda trawsnewidiol ar gyfer gweithredu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn yn seiliedig ar nifer o ddatblygiadau polisi allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys: datganoli effeithiol; economïau lleol a rhanbarthol cryfach a mwy cysylltiedig; alinio cynllunio gofodol cenedlaethol ac is-genedlaethol a fframweithiau polisi; a sefydlu cronfa adnewyddu’r DU.
Ar 30 Mai, cyhoeddodd y Comisiwn The First Report of the UK2070 Commission: Fairer and Stronger – Rebalancing the UK Economy, a nod y gyfres o ddigwyddiadau rhanddeiliaid sy’n cael eu cynnal ar draws y DU yw edrych ar y canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg a llywio datblygiad ei agenda ar gyfer newid. Bwriad digwyddiad rhanddeiliaid Cymru oedd edrych ar y materion perthnasol i’r Comisiwn o safbwynt Cymru.
Dywedodd yr Athro Kevin Morgan: “Mae angen newid gwybyddol o ran ein ffordd o feddwl am beth yw datblygiad ar sail lleoedd, ac mae hyn yn golygu rhyddhau ein hunain o’r hyn y mae William Blake yn ei alw’n ‘gyfyngu’n feddyliol’. Rhan allweddol o’r newid gwybyddol hwn yw edrych a gwerthfawrogi’r Economi Sylfaenol o’r newydd drwy werthfawrogi’r rôl y mae sectorau AB – fel gofal, iechyd, addysg, bwyd, ynni, dŵr a thai fforddiadwy, ac ati – yn ei chwarae o ran diwallu anghenion pobl a gwarantu lles ar y cyd. ”