Cyflwyno canfyddiadau ‘Dyfodol Llwyddiannus i Bawb’ yn y Senedd


Yr wythnos hon, cyflwynodd Dr Nigel Newton ganfyddiadau o’n prosiect ‘Dyfodol Llwyddiannus i Bawb’ i aelodau Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r prosiect yn archwilio’r ffordd y mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu mewn Ysgolion Arloesi a’r effaith bosibl ar blant o gefndiroedd difreintiedig. Mae Cwricwlwm i Gymru yn cynnig newidiadau cyffrous a radical i addysg yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y gallai ysgolion sy’n gwasanaethu cymunedau difreintiedig wynebu heriau ychwanegol wrth weithredu newid ar raddfa’r diwygiadau arfaethedig. Mae’n bwysig bod ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i sut mae athrawon mewn Ysgolion Arloesi yn gweithio i sicrhau bod y manteision a’r cyfleoedd ar gael i bawb.

Ail nod y prosiect oedd adeiladu capasiti o ran ymchwil ym maes addysg yng Nghymru. Mae’r prosiect 18 mis wedi cynnwys ymchwilwyr o chwe phrifysgol ledled Cymru: Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Edrychodd pob tîm ymchwil ar agwedd wahanol ar y diwygiadau.

Yn gyffredinol, mae’r rhan fwyaf o’r athrawon mewn Ysgolion Arloesi yn llawn cyffro am y cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, er bod gwneud y cwricwlwm yn un sydd yn seiliedig mwy ar brofiad a dilyniant yn rhywbeth gwerth chweil, mae’n amlwg o’n hymchwil y gallai fod gwahaniaethau o ran ymgysylltu a buddsoddi y bydd angen mynd i’r afael â nhw. Dylid rhoi mwy o sylw i anghenion disgyblion o gefndiroedd difreintiedig, oherwydd ar hyn o bryd nid ydynt yn cael lle amlwg yn natblygiad y cwricwlwm.

Ynghyd â’n partneriaid ymchwil, rydym yn gobeithio cymryd rhan mewn astudiaethau pellach i edrych ar yr hyn sy’n digwydd mewn ystafelloedd dosbarth a sut mae addysg disgyblion yn newid o ganlyniad i’r diwygiadau i’r cwricwlwm.
Darllenwch yr adroddiad terfynol.

Gwyliwch gyfarfod y pwyllgor ar Senedd.TV:


Share