Cymrodoriaeth Ymchwil y Senedd yn mapio mynediad at wasanaethau bancio yng Nghymru


Dros y degawd diwethaf mae cylchoedd olynol o gau banciau a thueddiadau cynyddol i ddarparu peiriannau codi arian â ffi wedi denu sylw helaeth yn y cyfryngau ac yn wleidyddol.

Mae ymchwilydd WISERD, Mitchel Langford, Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol De Cymru, wedi cyhoeddi adroddiad ar fynediad at wasanaethau bancio o ganlyniad i’w Gymrodoriaeth Academaidd ddiweddar gyda gwasanaeth Ymchwil y Senedd. Mae ei adroddiad ‘Exploring geographical patterns in the changing landscape of retail banking services in Wales’ yn edrych ar sut y gall y datblygiadau diweddaraf mewn technegau dadansoddi gofodol gynnig dealltwriaeth fanwl o batrymau darpariaeth a newidiadau mewn mynediad at wasanaethau bancio manwerthu.

Defnyddiodd Mitchel dechnegau dadansoddi gofodol i amcangyfrif hygyrchedd ar lefel cymuned leol ac archwilio effeithiau posibl cau canghennau yn y dyfodol ar y pellter ychwanegol y byddai angen ei deithio i gyrchu gwasanaethau. Defnyddiodd ei gymrodoriaeth i ddatblygu model archwiliadol o’r tebygolrwydd o orfod cau yn y dyfodol ac ymchwilio’r lefel o fynediad a brofir gan y preswylwyr hynny sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd Mitchel Langford “Mae’r gymrodoriaeth hon wedi rhoi cyfle i fi weithio’n agos gyda staff Ymchwil y Senedd gan gymhwyso dadansoddiadau gofodol soffistigedig a meddalwedd a ddatblygwyd ym Mhrifysgol De Cymru i fater sy’n bryder gwirioneddol. Rhoddodd y gymrodoriaeth fynediad at adnoddau data gwerthfawr i gefnogi’r astudiaeth, ond yn bwysicach arweiniodd at nifer o gyfarfodydd difyr lle trafodwyd, datblygwyd a mireiniwyd llu o syniadau. Mae hefyd wedi caniatáu i fi feithrin dealltwriaeth lawer cliriach o’r gwaith a wneir gan y Senedd ar ein rhan.”

Mae’r cynllun Cymrodoriaeth Academaidd yn galluogi academyddion ar lefel gyrfa uwch (ôl-PhD) i dreulio amser yn gweithio gydag Ymchwil y Senedd ar brosiect penodol, lle bydd hyn o fudd i’r academydd ac i’r Senedd.

Darllenwch erthygl Ymchwil y Senedd a ysgrifennwyd gan Mitchel Langford a Helen Jones (Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru): ‘Mapping access to banking services’

 


Rhannu