Cynhadledd Flynyddol WISERD 2019 i’w chynnal ar 3ydd-4ydd Gorffennaf


Graphic showing society members connected by lines

Ymhen pythefnos, bydd WISERD yn cynnal ei Gynhadledd Flynyddol yng Nghanolfan Gynadledda Medrus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Thema eleni yw Cymdeithas Sifil a Chyfranogiad.

Bydd cyfle i’r cynadleddwyr drafod ymchwil arloesol, rhyngddisgyblaethol o Gymru a thu hwnt, gan ganolbwyntio ar ymagweddau at gymdeithas sifil a chyfranogiad sydd wedi’u mabwysiadu mewn ystod eang o feysydd polisi. Bydd yna hefyd ddigon o gyfleoedd rhwydweithio ar gyfer cydweithwyr ar draws y sectorau academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector

Mae ein prif ddarlithoedd gan yr Athro Sarah Neal (Prifysgol Sheffield) ar Ailymweld â chymdogion a pham mae rhialtwch yn bwysig a’r Athro Kevin Morgan (Prifysgol Caerdydd) ar Ddyfodol polisi arloesi seiliedig ar le (fel petai ‘rhanbarthau sydd ar ei hôl hi’o bwys), yn addo bod yn uchafbwyntiau’r digwyddiad eleni

Rydym yn edrych ymlaen at rannu canfyddiadau rhaglen WISERD / Cymdeithas Sifil yr ESRC, gan gynnwys panel cloi arbennig sy’n edrych yn ôl ar draws y pum mlynedd o ymchwil a thrafod yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu. Byddwn hefyd yn edrych ymlaen at y rhaglen ESRC WISERD / Cymdeithas Sifil newydd ar ‘haeniad dinesig ac atgyweirio sifil ’, sy’n dechrau ym mis Hydref

Byddwn hefyd yn cynnal cystadleuaeth posteri a phosteri ôl-raddedig, gyda gwobrau wedi’u noddi’n hael gan Raglen Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru

Os nad ydych wedi archebu eich lle eisoes, mae dal amser i wneud hynny ond bydd gwerthiant tocynnau yn dod i ben am hanner nos heno.

Dilynwch @WISERDNews a chwiliwch # WISERD2019 ar 3ydd Gorffennaf i gael y newyddion diweddaraf o’r digwyddiad.

 


Rhannu