Ymgysylltu ag amgylchedd dysgu rhithwir Hwb yn ystod y cyfnodau cau ysgolion oherwydd Covid-19


Front page of Data Insight by Alexandra Sandu and Jennifer May Hampton

Mae Dogfennaeth Deall Data newydd gan Dr Alexandra Sandu a Dr Jennifer May Hampton o Labordy Data Addysg WISERD ac a gynhyrchwyd gan dîm ymchwil addysg ADR Cymru bellach ar gael: Ymgysylltu ag amgylchedd dysgu rhithwir Hwb yn ystod y cyfnod cau ysgolion oherwydd Covid-19 .

Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau cynnar ynghylch y ffordd mae disgyblion mewn sectorau cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig wedi bod yn ymgysylltu ag amgylchedd dysgu rhithwir Hwb yn ystod blwyddyn academaidd 2019/2020.

“Er ei fod yn cael ei ystyried i ddechrau yn fesur dilys i liniaru lledaeniad Covid-19, mae cau ysgolion yn genedlaethol wedi sbarduno pryderon ynghylch allgáu digidol a gwaethygu’r anghydraddoldebau addysgol presennol, drwy golli cyfleoedd dysgu.

Mae data gweinyddol ar fewngofnodi drwy wefan Hwb yn caniatáu i waith dadansoddi ac adnabod tueddiadau a phatrymau o ran t math hwn o ddysgu o bell yng Nghymru, fynd rhagddo. Er mai dim ond agweddau ar y ffyrdd y defnyddir Hwb a dysgu ar-lein yn gyffredinol mae’r data hyn yn ei gynnig, gall fod o gymorth o ran deall yr heriau y gallai rhai ysgolion fod yn eu hwynebu wrth annog eu disgyblion i ddefnyddio’r adnoddau hyn.

Yn ei dro, gall y dadansoddi hyn helpu i atal gwahaniaethau addysgol presennol rhag gwaethygu ymhellach, gyda lliniaru yn digwydd trwy roi ymatebion wedi’u targedu a chamau gweithredu ar lefel genedlaethol, ranbarthol a/neu’r ysgol ar waith.”

Darllenwch y Ddogfennaeth Deall Data lawn.

 

Mae Labordy Data Addysg WISERD yn fenter a ariennir gan ESRC/Llywodraeth Cymru sy’n cael ei chefnogi gan ADR Cymru ac sydd hefyd yn gweithio mewn cydweithrediad ag ADR Cymru.

YDG-ADR Cymru-Wales logo      WISERD Data Lab Logo

 


Share