Mae Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru yn falch o gyhoeddi symposiwm undydd (19eg Ionawr 2022) ar gyfer ôlraddedigion ac ymchwilwyr gyrfa ynnar (hunan-ddiffiniedig) sy’n gweithio ar agweddau ar fudo yng N ghymru neu wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru.
Nod y symposiwm ar-lein yw darparu awyrgylch cefnogol i ymchwilwyr rannu eu syniadau ar waith drafft a derbyn sylwadau adeiladol. Bydd pob cyfrannwr yn rhoi cyflwyniad 15 munud o hyd wedi’i ddilyn gan sesiwn H+A.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno, e-bostiwch grynodeb o ddim mwy na 250 gair, ynghyd â’ch enw, eich cysylltiad (os oes un), a manylion cyswllt at Dr Catrin Wyn Edwards (cwe6@aber.ac.uk) erbyn canol dydd ar 13 Rhagfyr 2021. Byddwn yn eich hysbysu erbyn 20fed o Ragfyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Dr Catrin Wyn Edwards.
Sefydlwyd Ymchwil Mudo Cymru ym mis Gorffennaf 2021 i annog cydweithio rhwng ymchwilwyr ar draws sefydliadau yng Nghymru i ddarparu ffocws cenedlaethol ar gyfer ymchwil mudo a dwyn ynghyd academyddion, rhanddeiliaid ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda mudwyr ar faterion sy’n effeithio ar fudwyr.
Image credit: Haeferl, CC BY-SA 3.0, via Wikimedia Commons.