Mae ymchwilwyr WISERD yn cynnal tair Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol a fydd yn rhoi sylw i ddiweithdra ymhlith pobl ifanc a chymdeithas sifil yng nghyd-destun datganoli, systemau bwyd cymunedol lleol a phrosiect gwyddoniaeth dinasyddion sy’n archwilio monitro ansawdd aer.
Diweithdra ymhlith pobl ifanc a chymdeithas sifil yng nghyd-destun datganoli: cymhariaeth is-wladwriaeth
11 Tachwedd 2021
Mae’r digwyddiad ar-lein hwn yn cael ei gynnal gan Dr Giada Lagana o Brifysgol Caerdydd. Mae’n edrych ar yr ymchwil a wnaed i ymwneud sefydliadau cymdeithas sifil â pholisïau a darpariaeth ar gyfer diweithdra ymhlith pobl ifanc ar draws pedair gwlad ddatganoledig y DU, a hynny ar y cyd â chynrychiolwyr sefydliadau cymdeithas sifil. Mae’r cynrychiolwyr hyn yn ymwneud yn weithgar â’r gwaith o weithredu a chydlynu rhaglenni a mentrau i ddelio â diweithdra ymhlith pobl ifanc.
Systemau bwyd cymunedol lleol: gwneud ein bwyd yn fwy cynaliadwy a gwydn
16 Tachwedd 2021
Yn y digwyddiad ar-lein hwn, a gynhelir gan Dr Bernd Bonfert, un o Gymdeithion Ymchwil WISERD, byddwn yn croesawu panel o arbenigwyr i rannu eu profiadau a’u dealltwriaeth o waith systemau bwyd yn y gymuned, eu manteision a’r heriau sy’n gysylltiedig â nhw. Anogir y cyfranogwyr i ofyn cwestiynau a darganfod pa gyfleoedd y gallai systemau bwyd cymunedol eu rhoi iddynt.
Ein Haer, Ein Llygredd: Prosiect gwyddoniaeth dinasyddion sy’n cadw llygad ar lygredd aer yn Ne Cymru
11 Tachwedd 2021
Cynhelir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Thîm Prosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion y Barri a Phrifysgol Caerdydd. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu sut i greu monitor ansawdd aer a chasglu eu data eu hunain ar ansawdd aer lleol. Bydd y data hwn yn cyfrannu at waith Tîm Prosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion y Barri ar lygredd aer.
Dim ond i aelodau o Dîm Prosiectau Gwyddoniaeth Dinasyddion y Barri y mae’r digwyddiad hwn ar gael.
Mae Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC yn ddathliad blynyddol rhad ac am ddim ledled y DU o’r gwyddorau cymdeithasol rhwng 1 a 30 Tachwedd. Eleni, bydd y digwyddiadau’n canolbwyntio ar y gwyddorau cymdeithasol a’r amgylchedd, o ystyried y gynhadledd COP26 sydd ar ddod.