Ym mis Medi 2020, cynhaliodd WISERD Gyfres Ar-lein 2020 am yr Economi Sylfaenol.
Aeth y gyfres hon o ddigwyddiadau ar-lein i’r afael â chwestiynau allweddol sy’n codi o’r argyfwng COVID-19 presennol ac edrychodd ar ffyrdd y gall meddylfryd sylfaenol gyfrannu at adfer cymdeithasol ac economaidd. Roedd y gyfres yn cynnwys tair sesiwn ar-lein:
-
Economi Sylfaenol 2.0: adeiladu dyfodol cynaliadwy
Siaradwyr: Teis Hansen (Prifysgol Lund), Lars Coenen (Prifysgol Gwyddorau Cymhwysol Gorllewin Norwy), Julie Froud (Prifysgol Manceinion)
Sut gall pwyslais ar sectorau sylfaenol gyfrannu at gynaliadwyedd amgylcheddol? A oes meysydd o weithgaredd economaidd a all symud ein hôl troed ecolegol i’r cyfeiriad cywir a chyfrannu at wella bioamrywiaeth ac adnoddau naturiol? Bydd y seminar hwn yn trafod gwerthusiadau o feddwl sylfaenol ac yn ystyried potensial dulliau economi sylfaenol newydd (economi sylfaenol 2.0) i gyfrannu at les cenedlaethau’r dyfodol, i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau bioamrywiaeth.
-
Atebion Sylfaenol a Chyfiawnder Cymdeithasol
Siaradwyr: Rachel Reeves AS (Canghellor yr Wrthblaid ar gyfer Dugiaeth Caerhirfryn a Gweinidog yr Wrthblaid ar gyfer Swyddfa’r Cabinet) a Fabrizio Barca (cydlynydd Forum Disuguaglianze e Diversità a gweinidog gwladwriaeth yr Eidal gynt heb bortffolio ar gyfer cydlyniant tiriogaethol rhwng 2011 a 2013).
Wrth i wladwriaethau ymateb i argyfwng COVID-19 gyda pholisïau sy’n wahanol iawn i rai’r degawdau neo-ryddfrydol a’i rhagflaenodd, pa ddylanwad y gellir ei ddwyn ar y ffurfiau penodol y mae’r polisïau hyn yn eu cymryd? Sut y gall polisïau sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd a chyfiawnder cymdeithasol gael eu hyrwyddo gan fudiadau cymdeithasol a sefydliadau cymdeithas sifil? A yw safbwyntiau a pholisïau sylfaenol fel incwm sylfaenol cyffredinol a gwasanaethau sylfaenol cyffredinol ar fin dod yn brif ffrwd? Bydd y seminar hwn yn ystyried y materion hyn a’r ffyrdd y gall syniadau economaidd amgen ennill tyniant gwleidyddol yn yr argyfwng presennol.
-
Yr Economi Sylfaenol ar Waith: Lles ac adnewyddu’r economi
Siaradwyr:Lee Waters (Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth), Elin Hywel (Cwmni Bro) and Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru).
Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw wrth gefnogi a datblygu’r economi sylfaenol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys buddsoddi mewn prosiectau arbrofol ledled Cymru trwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol gwerth £4.5m. Bydd y seminar hwn yn rhannu rhywfaint o’r prosiectau hyn ac yn trafod sut y gellir datblygu’r mentrau hyn drwy ledaenu a graddio arfer gorau. Bydd hefyd yn archwilio’r rhwystrau i’r prosiectau hyn a’u hwyluswyr a’u potensial i gyfrannu at les ac adnewyddu’r economi.
Os gwnaethoch fethu unrhyw un o’r sesiynau ar-lein, gallwch wylio fideos o bob digwyddiad: Cyfres Ar-lein 2020 WISERD am yr Economi Sylfaenol.