Mae WISERD wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sefydliadau Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i greu archif ddigidol ag arwyddocâd hanesyddol o Adroddiadau Blynyddol y WCVA a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd. Rydym yn hynod o falch i allu cyflwyno’r adnodd hwn yn gyhoeddus am ddim i haneswyr cymdeithasol, ymchwilwyr a phobl gyffredinol chwilfrydig.
Mae hanes hir ac amrywiol i’r WCVA, o gefnogi ‘glowyr di-waith a’u gwragedd’ yn y 1930au, i ddatblygu hyfforddiant mewn cymunedau gwledig yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, sefydlu pwyllgorau ar faterion penodol a dyfodd yn sefydliadau annibynnol a elwir heddiw yn Anabledd Cymru ac Age Cymru; ac yn fwy diweddar, cynnig cynrychiolaeth ffurfiol i’r sector gwirfoddol mewn partneriaeth â’r llywodraeth.
Heddiw, bydd y WCVA yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf o gyrff cymdeithas sifil Cymru fel darparwr gwasanaethau cymorth uniongyrchol i’r sector gwirfoddol ac fel corff cynrychioliadol sy’n gweithio gyda’r llywodraeth. Fodd bynnag, mae wedi chwarae sawl rôl wahanol dros y blynyddoedd, gan symud ei ffocws a’i gyfeiriad wrth i anghenion, polisïau a gwleidyddiaeth newid. Mae’r adnodd gwerthfawr hwn nid yn unig yn olrhain hanes y WCVA ond mae hefyd yn cynnig golwg hynod werthfawr ar gymdeithas sifil yng Nghymru, a’r ystyriaethau a’r trafodaethau a’i ffurfiodd.
Yn yr archif ceir deunyddiau ffynhonnell cynradd i’r rheini sydd â diddordeb mewn materion amrywiol, yn cynnwys cysyniad newidiol gwirfoddoli, dealltwriaeth a diben ‘gwaith gwirfoddol’ a’r berthynas rhwng y sector, a gaiff ei alw’n ‘wasanaethau cymdeithasol gwirfoddol’, ‘cyrff gwirfoddol’, neu ‘y trydydd sector’, a llywodraeth a’r wladwriaeth les.
Yn yr archif ceir Adroddiadau Blynyddol y WCVA o 1934/35 – 1939/40 pan fu’n gweithredu fel Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol De Cymru a Sir Fynwy, a phob Adroddiad Blynyddol yn yn ddi-dor am y blynyddoedd 1947 i 2018/19, gyda thri newid enw a diwygiadau o ran ffocws. Mae pob Adroddiad Blynyddol ar gael fel un pdf chwiliadwy y gellir ei lawrlwytho.