Bydd grant newydd gan ESRC yn galluogi ymchwil amlddisgyblaethol i gael ei gynnal am y tro cyntaf i oblygiadau eithriadau o’r ysgol ar draws y DU, o dan arweiniad yr Adran Addysg ym Mhrifysgol Rhydychen.
Mae’r Athro Sally Power a Chris Taylor yn rhan o dîm o ymchwilwyr sy’n gweithredu ar draws Rhydychen, Caerdydd, Caeredin, Belfast, Reading ac Ysgol Economeg Llundain (LSE) er mwyn gwneud ymchwil pellach i effaith eithriadau o’r ysgol yn y DU ar ôl i’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ddyfarnu grant mawr. Arweinir y prosiect pedair blynedd gan yr Athro Harry Daniels a’r Athro Cyswllt Ian Thompson yn Adran Addysg Prifysgol Rhydychen. Disgwylir iddo ddechrau ar 2 Hydref 2019.
Mae’r ESRC wedi dyfarnu £2,550,850 i ddatblygu dealltwriaeth amlddisgyblaethol o economïau gwleidyddol a goblygiadau eithrio o’r ysgol ar draws y DU. Bydd yr ymchwil yn arwain at gael gwell dealltwriaeth o gost eithrio ar lefel unigol, sefydliadol a system, yn ogystal â hawliau, diogelwch a lles disgyblion, a natur eithriadau ar draws pedwar o awdurdodau’r DU.
Ceir gwahaniaethau helaeth yng nghyfraddau eithriadau parhaol o’r ysgol mewn gwahanol rannau o’r DU, gyda’r niferoedd yn cynyddu’n gyflym yn Lloegr ond yn aros yn weddol isel neu hyd yn oed yn gostwng yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos y bu 7,900 o eithriadau parhaol yn Lloegr o’u cymharu â phump yn unig yn yr Alban, heb ystyried y nifer o fathau anffurfiol ac anghyfreithlon o eithrio.
Yn yr ymchwil hwn, am y tro cyntaf cynhelir cymariaethau rhyngwladol rhwng gwledydd Prydain o bolisi hanesyddol a chyfoes, ymarfer a fframweithiau cyfreithiol sy’n ymwneud ag eithrio o’r ysgol.
Dywedodd Ian Thompson, Athro Cyswllt Addysg Saesneg yn Adran Addysg Rhydychen a’r Cyd Brif Ymchwilydd ar gyfer yr ymchwil: “Mae gan eithriadau oblygiadau tymor hir a thymor byr o ran llwyddiannau academaidd, lles, iechyd meddwl, a gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae ymchwil blaenorol ac ystadegau swyddogol yn dangos fod eithriadau o’r ysgol hefyd llawer yn fwy tebygol o effeithio ar ddisgyblion sydd ag anghenion arbennig, o deuluoedd incwm isel, a rhai cefndiroedd ethnig.”
Mae’r gwaith rhagarweiniol a gynhelir gan y tîm ymchwil, a sefydlwyd yn gyntaf yn 2014, wedi dangos y gall y pwysau ar ysgolion i berfformio’n dda mewn tablau cynghrair arholiadau arwain at eithrio’r disgyblion hynny sydd â chyrhaeddiad disgwyliedig a fyddai’n gwanhau perfformiad yr ysgol yn gyffredinol. O ganlyniad, gall y disgyblion sydd ddim yn cydymffurfio â’r rheolau gael eu heithrio i ymylon cymdeithasol addysg.
Yn ôl Harry Daniels, Athro Addysg yn Adran Addysg Rhydychen a Phrif Ymchwilydd Ymgynghorol y gwaith, “Mae eithrio yn broses, yn hytrach nag yn un digwyddiad, sy’n cael ei ddeall yn llawn yn unig pan gaiff ei archwilio o nifer o safbwyntiau proffesiynol a disgyblaethol”. “Mae polisi addysg hefyd wedi anwybyddu, i raddau helaeth, y gwaith a wneir gan weithwyr proffesiynol yn yr ysgol a swyddogion lles sy’n ceisio mynd i’r afael ag ymddygiad sy’n tarfu i osgoi digwyddiadau mwy difrifol. Mae’r prosiect hwn felly yn ceisio amlygu ffyrdd o ddod at ganlyniadau tecach a mwy cynhyrchiol i ddisgyblion, eu teuluoedd, a gweithwyr proffesiynol trwy gymharu’r ffyrdd y mae polisi ac ymarfer ynghylch eithrio yn amrywio yn y pedwar awdurdod.”
Trefnir yr ymchwil yn dair brif ffrwd: natur eithrio; profiadau eithrio; ac integreiddio. Mae’r ffrwd ‘natur eithrio’ yn edrych ar ffyrdd y mae polisïau a fframweithiau cyfreithiol yn llywio ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i atal eithriadau; y costau ariannol sy’n gysylltiedig ag eithrio; a phatrymau a nodweddion eithrio. Mae’r ffrwd ‘profiadau eithrio’ yn canolbwyntio ar brofiadau teuluoedd, disgyblion a gweithwyr proffesiynol o beryglon a goblygiadau eithrio. Bydd y ffrwd ‘integreiddio’ yn integreiddio’r canfyddiadau hyn i wneud yn siŵr bod y dysgu yn barhaus wrth i’r ymchwil ddatblygu dealltwriaeth amlddisgyblaethol gydlynol o economïau gwleidyddol eithrio.
Bydd y dadansoddiadau hyn yn cynnwys themâu trawsbynciol: hawliau plant, troseddau ieuenctid, gwerthoedd a rôl crefydd, cyd-destun daearyddol, rhyw ac ethnigrwydd, dosbarth cymdeithasol, anghenion arbennig ac anabledd, a iechyd meddwl.
Dywedodd yr Athro Sally Power: “Mae WISERD yn falch iawn o fod yn bartner yn y prosiect arwyddocaol hwn. Rydym yn gwybod bod eithriad o ysgol yn niweidiol ar gyfer y person ifanc dan sylw. Yma yng Nghymru, mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio’n galed i ostwng y nifer o eithriadau o’r ysgol – sydd bellach llawer yn is na’r niferoedd yn Lloegr. Fodd bynnag, mae’r heriau o ran sut i ddelio â disgyblion sydd â phroblemau difrifol yn parhau.
“Bydd yr ymchwil yn edrych ar yr heriau hyn, o safbwynt y bobl ifanc eu hunain, eu ffrindiau ysgol, eu hathrawon a gweithwyr proffesiynol allweddol eraill. Bydd Lab Data Addysg WISERD a sefydlwyd yn ddiweddar hefyd yn edrych ar batrymau eithriadau o’r ysgol ar draws y DU er mwyn canfod yr ardaloedd uchel ac isel o eithriadau o’r ysgol a pha amgylchiadau a allai fod yn sail i’r patrymau hyn.
“Ar y cyfan, rydym yn gobeithio darganfod beth allai Cymru ddysgu gan wledydd eraill a beth allai gwledydd eraill ddysgu gan Gymru.”