Cyhoeddir canfyddiadau newydd ein hymchwil mewn dau bapur briffio annhechnegol newydd am hawliau dinasyddiaeth pobl frodorol yn India a’r heriau cyfoes y maen nhw’n eu hwynebu wrth ddiogelu eu tir, eu diwylliant a’u hieithoedd.

Mae’r tîm ymchwil yn cynnwys (o’r Ch i’r Dde, y rhes flaen) Dr Reenu Punnoose (Sefydliad Technoleg India, Palakkad) a Dr Muhammed Haneefa (Sefydliad Technoleg India, Jammu), a (o’r Ch i’r Dde, y rhes gefn) Paul Chaney (Athro Emeritws, Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru, Prifysgol Caerdydd) a’r Professor Sarbeswar Sahoo (Sefydliad Technoleg India, Delhi).
Mae’r adroddiad cyntaf yn trin a thrafod sefyllfa pobl Bhil yn Rajasthan.
Mae llwyth y Bhil yn un o’r hynaf yn India ac yn siarad iaith o darddiad Indo-Ariaidd. Yn y papur briffio annhechnegol hwn, rydyn ni’n defnyddio canfyddiadau gwaith maes, gan gynnwys gweithdai a gynhaliwyd yn 2024-25 gyda phobl frodorol, sefydliadau’r gymdeithas sifil (CSO) ac academyddion yn y maes.
Mae’r ail adroddiad yn edrych ar sefyllfa pobl Irula yn Kerala.
Irula yw’r ail lwyth mwyaf yn Kerala. Maen nhw’n byw yn rhanbarth Attappady yn Ardal Palakkad. Mae iaith Irula yn iaith annibynnol Drafidaidd y De sy’n debyg i Tamil.
Mae ein canfyddiadau yn dangos bod diwylliant y ddau lwyth o dan fygythiad. Mae’r Bhil a’r Irula yn wynebu heriau yn sgil datblygiad economaidd ar eu tiroedd, mewnfudo sy’n bygwth eu ffyrdd traddodiadol o fyw, gwahardd eu hieithoedd mewn addysg ffurfiol, diraddio’r amgylchedd, tlodi ac anghydraddoldeb.
Her arall yw’r gwahaniaethau rhwng cenedlaethau gan fod rhai pobl ifanc yn cofleidio prynwriaeth uchelgeisiol a bywyd trefol yn hytrach na’r bywyd traddodiadol. Mae ein hymchwil hefyd yn olrhain cefnogaeth gynyddol dros gamau gan y gymdeithas sifil i fynd i’r afael â’r materion hyn.
Ceir adroddiad llawn am ganfyddiadau ein hymchwil yn y llyfr hwn fydd yn ymddangos yn fuan:
‘Indigeneity, Culture and Citizenship in Today’s India: New Perspectives on the Bhil and Irula Peoples’ (2026) gan Sarbeswar Sahoo, Paul Chaney, Reenu Punnoose a Muhammed Haneefa (Bloomsbury Publishing, New Delhi).
Cydnabyddiaethau:
Hoffai’r tîm ymchwil ddiolch i Academi’r Gwyddorau Meddygol am gyllid o dan brosiect Rhif NGR1\1042. Hoffai’r tîm hefyd ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwil.
Credyd Llun 1: Adivasi – o goedwig drwchus i goedwig goncrit – Ieuenctid Adivasi yn dawnsio yn ystod gŵyl liwgar Bhagoriya ar ddiwrnod marchnad ym Bakhatgarh. Llun gan Rohit Jain a gyhoeddir o dan drwydded CC-BY 2.0.
Credyd Llun 2: Y tîm ymchwil © Haneefa.