Labordy Data Addysg WISERD yn lansio cyfres blog


Mae Lab Data Addysg WISERD, sydd newydd ei sefydlu, wedi lansio cyfres o negeseuon blog i rannu ei ddadansoddiadau diweddaraf â chynulleidfa ehangach. Mae’r labordy yn bwriadu cynhyrchu tystiolaeth sy’n seiliedig ar ymchwil o safon uchel gan ddefnyddio data gweinyddol o’r sector addysg i gefnogi’r sector yng Nghymru.

Er mwyn ymgymryd â’r gwaith hwn, mae Labordy Data Addysg WISERD yn defnyddio data gweinyddol gan Lywodraeth Cymru ar nodweddion disgyblion, perfformiad a phresenoldeb/absenoldeb, yn ogystal â nodweddion ar lefel ysgolion, a data demograffig a daearyddol.

Bydd dadansoddi’r data hwn yn galluogi ymchwilwyr WISERD i rannu tystiolaeth ynghylch pynciau fel adnabod Disgyblion Mwy Abl a Thalentog a’u nodweddion, effaith sefyll TGAU yn gynnar ar ddeilliannau’r disgybl a mesurau perfformiad ar lefel yr ysgol, presenoldeb yn yr ysgol a phatrymau a rhagfynegi eithriadau o’r ysgol yng Nghymru dros amser (rhwng ac o fewn blynyddoedd academaidd), yn ôl ardal, yr ysgol a’r math o ysgol.

Yn ôl Chris Taylor, Cyfarwyddwr Labordy Data Addysg WISERD: “Mae’r gyfres yn galluogi ein hymchwilwyr i rannu ein canfyddiadau â chynulleidfa eang o athrawon, arweinwyr addysg a llunwyr polisïau. Bydd yn ein helpu i lywio trafodaeth genedlaethol ar rai o’r materion mwyaf cyfoes a dybryd ynghylch addysg yng Nghymru. Rydym am i’n hymchwil fynd i’r afael â materion addysgol sy’n berthnasol i bawb yn y sector addysg. Mae rhannu ein canfyddiadau yn y modd hwn yn ein helpu i ysgogi sgyrsiau fydd yn llywio datblygiad ein gwaith.”

Ariennir Labordy Data Addysg WISERD gan Lywodraeth Cymru, Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (gwobr: ES/012435/1) a Phrifysgol Caerdydd.

Postiadau blog:

An introduction to the WISERD Education Data Lab

Early GCSE entry: patterns over time

Early GCSE entry: multiple entry

Patterns of school non-attendance over the educational lifecourse

COVID-19 and the uncertainty for new Welsh undergraduates


Rhannu