Mae’r Prosiect Sbectrwm yn rhaglen addysgol arbenigol ar gyfer codi ymwybyddiaeth, ataliol a dwyieithog, sy’n cyflwyno sesiynau ar bob agwedd ar Berthnasoedd Iach a VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) i ddisgyblion a staff mewn ysgolion ledled Cymru.
Mae’n cysylltu â blaenoriaethau Atal, Amddiffyn a Chefnogaeth a amlinellir yn Neddf a Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru). Mae hefyd yn ymwneud â’r holl strategaethau rhanbarthol ledled Cymru, gan gynnwys addysgu am berthnasoedd iach, a helpu i sefydlu Ymagwedd Ysgol Gyfan, gyda phawb sy’n ymwneud ag addysg plant yn cydweithio.
Mae Lab Data Addysg WISERD wedi dadansoddi data a gasglwyd gan Hafan Cymru ar effeithiolrwydd Prosiect Sbectrwm.
Gan ddefnyddio data a gasglwyd gan gyfranogwyr cyn ac ar ôl pob sesiwn, dros nifer o sesiynau, roedd y Lab Data yn gallu asesu cynnydd mewn ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth yn dilyn yr hyfforddiant yn ystod y sesiwn.
Darparwyd y canfyddiadau, ynghyd ag argymhellion ar gasglu data yn y dyfodol, mewn adroddiad i Hafan Cymru i’w ddefnyddio’n fewnol.
Mae Lab Data Addysg WISERD wedi croesawu’r cyfle i weithio gyda Hafan Cymru i ddadansoddi’r rhaglen addysgol bwysig hon.
Am Lab Data Addysg WISERD:
Mae Lab Data Addysg WISERD yn cynnal dadansoddiadau annibynnol o ddata addysg gweinyddol, data arolygon a chysylltiadau data, yn ogystal â chyfnewid gwybodaeth a rhannu canfyddiadau â’r cyhoedd i lywio trafodaethau cenedlaethol ar rai o’r materion addysgol mwyaf cyfoes a phwysig sy’n wynebu Cymru. Ariennir Labordy Data Addysg WISERD gan Lywodraeth Cymru, Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (gwobr: ES/012435/1) a Phrifysgol Caerdydd.