Dynion ifanc a ymylir a “diwylliant y llanciau” o’r tu mewn: “Nid yw ein dyfodol wedi’i bennu ymlaen llaw”


View from behind man looking out of window.

Mae hanes amddifadedd yng Nghymoedd De Cymru wedi llywio dyheadau a barn dynion ifanc am wrywdod, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Cynhaliodd Dr Richard Gater gyfweliadau manwl gyda dynion ifanc rhwng 13 a 21 oed a oedd yn byw yng Nghwm Aber ym mwrdeistref Caerffili. Pwnc yr astudiaeth oedd pontio o’r ysgol i fyd gwaith – a’r dylanwadau a effeithiodd ar ddewis swyddi wrth fynd yn oedolyn. At ddibenion yr ymchwil, bu’n gweithio mewn Canolfan Ieuenctid lle byddai’r dynion ifanc yn mynd.

Cynhaliwyd yr ymchwil yng nghyd-destun PhD Dr Gater, a chomisiynwyd y llyfr pan oedd yn ymchwilydd yn Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD).

Dyma’r hyn a ddywedodd: “Mae llawer o drafodaeth wedi bod yn ddiweddar am ‘wrywdod gwenwynig’ a’r ffyrdd negyddol y bydd dynion ifanc yn ymwneud â’r byd, ond does dim digon yn cael ei wneud i ddeall a mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n gyfrifol am y deilliannau hyn. Mae’r ymchwil hon yn cynnig cipolwg ar brofiadau dynion ifanc sydd wedi’u hymylu ac yn byw mewn cymuned ddifreintiedig yn ne Cymru, a hynny gan rywun a oedd yn arfer bod yntau yn un o’r ‘llanciau’ hynny.

“Mae’n amlwg bod y system yn methu’r grŵp hwn. Yn hytrach na chondemnio’r grŵp hwn o bobl, rwy’n credu bod angen gwneud mwy i feithrin eu talentau a chodi dyheadau pan maen nhw’n ifanc.

Roedd modelau rôl yn ddylanwad allweddol ar safbwyntiau’r dynion ifanc roedd wedi cyfweld â nhw, meddai Dr Gater.

“Roedd llawer o’r dynion ifanc y bues i’n siarad â nhw’n ymwneud â throseddu, gan gynnwys ymddygiad ymosodol a thrais y byddai eu cyfoedion yn aml yn ei hybu” eglurodd.

“O ran eu dyheadau gyrfaol, roedd yn well gan y rhan fwyaf syniad swydd corfforol, gan wrthod addysg uwch neu’r hyn yr oedden nhw’n ei ystyried yn swyddi swyddfa diflas. Deilliodd hyn o’r ffaith bod aelodau’r teulu mewn swyddi tebyg. Roedd un o’r bechgyn eisiau bod yn gogydd, yn seiliedig ar y ffaith bod ei Nain wedi ei ddysgu i goginio er pan oedd yn ifanc.

“Ac mae ystrydebau eraill sy’n cael eu gwrthod; yn y gorffennol, efallai y bydden nhw’n gwgu ar gofleidio ei gilydd yn y cylchoedd hyn – ond roedd y grŵp hwn yn gyfforddus yn gwneud hynny. Deilliodd hyn o’r ffaith eu bod nhw’n gweld chwaraewyr pêl-droed yn cofleidio ei gilydd a bod cynnydd wedi bod mewn trafodaethau diwylliannol ynghylch iechyd meddwl dynion.

“Mae’n amlwg bod parhad a newidiadau mewn ystrydebau gwrywaidd yn llunio hunaniaethau ac agweddau dynion ifanc tuag at addysg a chyflogaeth. Fel yn fy achos i, yn bendant dyw eu dyfodol ddim yn un a bennir ymlaen llaw.”

Mae cyfradd diweithdra dynion yng Nghwm Aber yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 9.4% o’i gymharu â chyfartaledd y DU, sef 5%. Mae 35 y cant, bron iawn, o drigolion Cwm Aber heb unrhyw gymwysterau academaidd.

Fel y mae Dr Gater yn manylu arno yn ei lyfr, The 21st Century Ladz, mae’n disgrifio ei hun yn “rhywun o’r tu mewn” gan iddo fyw yno ar hyd ei oes. Gwrthododd yntau addysg yn ifanc hefyd – gan adael yr ysgol heb gymwysterau TGAU.

“Ar ôl gwrthwynebu bydd addysg, yn fuan daeth ysmygu, yfed alcohol, cymryd cyffuriau a ‘mân’ droseddu yn fy arddegau cynnar, a gwaethygwyd hyn gan fy mod i’n edmygu grŵp o fechgyn yn fy mhentref pan o’n i’n ifanc,” meddai. “Yn ystod fy ugeiniau, bues i’n gweithio mewn pob math o swyddi, rhai ohonyn nhw’n ansefydlog. Yn y diwedd, penderfynais nad oedd gen i ddim i’w golli a chymerais i’r naid i fyd addysg uwch.”

Gan weithio bellach yn gynorthwyydd ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol Oedolion (CARE), ychwanegodd Dr Gater: “Mae’n hollbwysig bod trafodaethau ynghylch cyfleoedd i bobl ifanc yn cael eu datblygu yn sgil eu profiadau bywyd a’u barn.

“Ac felly rwy’n ddiolchgar iawn i’r dynion ifanc a rannodd eu straeon gyda mi a gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn llywio ac yn gwella polisïau a anelir at gyrraedd y grŵp demograffig hwn sydd yn aml yn cael ei anwybyddu.”

 

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Caerdydd.

Credyd delwedd: Sentir y Viajar trwy iStock.


Rhannu