Angen dull newydd o weithio’n hyblyg i atal anghydraddoldeb rhag ehangu


Person working from home

Mae angen i’r cyfle i weithio’n hyblyg fod ar gael i bawb er mwyn osgoi ehangu anghydraddoldebau, yn ôl adroddiad gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae canfyddiadau’r grŵp gwaith a chyflogaeth ReWAGE, sy’n cynnwys yr Athro Alan Felstead o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) un yn o’r cyd-awduron, yn nodi’r problemau sy’n bodoli eisoes a phroblemau posibl yn y dyfodol o ran gweithio hyblyg, yn ogystal ag ystyried y manteision a all ddod yn ei sgil.

Mae eu casgliadau’n awgrymu y gallai’r dull cywir gyfrannu at gymdeithas fwy cynaliadwy, cynhyrchiol a chynhwysol.

Gallai gweithio hyblyg gyfrannu at:

  • datblygu ffurfiau cynaliadwy o gyflogaeth yng ngoleuni trawsnewidiadau mawr megis deallusrwydd artiffisial a sero net;
  • symud ymlaen tuag at gymdeithas fwy cyfartal o ran rhywedd sydd hefyd yn gydnaws â rhianta mwy cyfartal a gofal plant o safon;
  • galluogi dull mwy cynhwysol at gyflogaeth sy’n denu neu’n cadw mwy o famau, gofalwyr, pobl anabl neu bobl hŷn yn y eu swyddi;
  • gwella lles;
  • cefnogi datblygiad economi cynhyrchiol a chynhwysol.

Ond er mwyn i weithio hyblyg wir lwyddo i gyflogwyr a gweithwyr, dywed yr adroddiad fod materion allweddol y mae angen mynd i’r afael â nhw o hyd.

Dywedodd yr Athro Alan Felstead: “Mae’r pandemig wedi arwain at y newid mwyaf i arferion gwaith ers cenhedlaeth. Mae’n edrych yn debyg y bydd gweithio o bell yn nodwedd amlwg i lawer o weithwyr ac yn sicr yng Nghymru, mae ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithio o bell.

“Ond er mwyn i weithio hyblyg fod o fudd i bob gweithiwr, gan gynnwys y rhai na allant weithio o bell, mae angen i gyflogwyr a gweithwyr gael sgyrsiau ystyrlon am ddyfodol arferion gwaith. Os caiff ei wneud yn dda, gallai olygu cynnydd o ran cynhyrchiant a lles gweithwyr yn gyffredinol, gan sicrhau nad oes unrhyw weithiwr dan anfantais oherwydd eu dewisiadau gyrfa neu eu hamgylchiadau personol.”

Ers Brexit, mae’r UE wedi cyflwyno sawl rheoliad ar oriau gwaith y mae’r DU wedi’i heithrio rhagddynt, megis uwchraddio oriau contract, taliadau am waith ar alwad a pharatoadau ar gyfer gweithredu’r ‘hawl i ddatgysylltu’.

Yn y DU, bydd deddf newydd sy’n rhoi’r hawl i weithwyr ofyn am weithio hyblyg o’r diwrnod cyntaf o’u cyflogaeth, ac sy’n caniatáu i weithwyr wneud cais ddwywaith y flwyddyn, yn dod yn gyfraith y flwyddyn nesaf. Mae mesur hefyd wedi’i gyflwyno i’r senedd a fydd, os caiff ei basio, yn rhoi’r hawl i weithwyr ofyn am oriau mwy rhagweladwy ar ôl chwe mis o gyflogaeth. Er bod academyddion yn dweud bod y rhain yn gamau i’r cyfeiriad cywir, maen nhw’n pwysleisio mai dim ond hawliau i wneud cais yw’r rhain o hyd.

Dywedodd Dr Helen Blakely, un o gyd-awduron yr adroddiad sydd hefyd yn rhan o WISERD: “Bydd llawer o gyflogwyr dan bwysau i roi trefniadau gweithio hyblyg ar waith, ond gall y cynnydd fod yn araf gan fod newidiadau’n dibynnu ar weithredu gwirfoddol oherwydd niferoedd isel sy’n aelodau o undebau a lefelau isel o fargeinio ar y cyd. Waeth beth yw’r newidiadau a gaiff eu rhoi ar waith, mae angen cael dull mwy cynhwysol i wella bywydau gwaith pawb, gan gynnwys y rhai na allant weithio mewn ffyrdd hybrid neu hyblyg.”

Mae The future of flexible working ar gael i’w weld yma.

Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Caerdydd.

Llun gan Annie Spratt ar Unsplash.


Share