Mae tri academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi ysgrifennu penodau mewn llyfr newydd sy’n dathlu cyfraniad yr Athro Colin Williams i faes polisi a chynllunio iaith.
Mae Language, Policy and Territory yn cynnwys 18 pennod gan gyn-fyfyrwyr, cyd-aelodau o staff a rhai a fu’n cydweithio â Williams. Mae’r rhain yn cynnwys yr Athro Rhys Jones, Dr Huw Lewis a Dr Elin Royles, sy’n gweithio yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS). Mae’r Ganolfan hefyd yn gweithredu fel cangen Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD).
Mae’r gyfrol yn ymdrin ag ystod o bynciau sy’n cynnwys gwahanol agweddau ar ddeddfwriaeth iaith a hawliau iaith, llywodraethu, economeg, tiriogaetholdeb, cynllunio defnydd tir, ac onomasteg.
Ysgrifennwyd y bennod gyntaf yn y llyfr, Examining the Political Origins of Language Policies, gan Lewis a Royles ac mae’n dadansoddi gwreiddiau polisïau iaith penodol ac yn olrhain eu datblygiad dros amser.
Maen nhw’n dadlau bod y llenyddiaeth bresennol ar bolisi iaith yn methu â nodi sut a pham mae dewisiadau penodol yn dod i’r amlwg a sut mae’r rhain yn gysylltiedig â ffactorau gwleidyddol.
Ym mhennod 7, Networked Territories of Language and Nation, mae Jones yn dadansoddi tiriogaethau rhwydweithiol iaith a chenedl, gan nodi’r newid o ffocws academaidd ar hanes ac oes cenhedloedd i sylw daearyddol ar dirweddau, pwysigrwydd safleoedd a lleoedd penodol, ac arwyddocâd tiriogaeth.
Mae Jones yn defnyddio’r dehongliad rhwydwaith hwn o diriogaethau cenedlaethol i archwilio graddau tiriogaethol yr ymdeimlad o Gymreictod a ddiffinnir yn ôl gallu yn y Gymraeg.
Golygir y gyfrol gan Wilson McLeod, Rob Dunbar, Kathryn Jones, John Walsh ac ma hefyd yn cynnwys penodau ar ddamcaniaethu polisi a rheoleiddio iaith ac yn ymchwilio i heriau polisi iaith yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban, Canada a Chatalwnia.
Mae Comisiynwyr y Gymraeg a’r Wyddeleg, Gwenith Price a Rónán Ó Domhnaill, yn lansio’r llyfr yn ffurfiol ddydd Iau, 29 Medi 2022 am 5pm mewn digwyddiad a drefnir gan IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith. Mae rhagor o fanylion am sut i gofrestru ar gael yma.