Adroddiad newydd am arloesi democrataidd gan Dr Anwen Elias


Dr Anwen Elias, cyd-gyfarwyddwr WISERD yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw prif awdur adroddiad diweddaraf y Sefydliad Materion Cymreig (IWA): Meithrin Arloesi Democrataidd yng Nghymru: Gwersi o Bedwar Ban Byd.

Bydd Dr Elias yn sgwrsio gyda Joe Rossiter, cyd-gyfarwyddwr IWA, ddydd Mawrth 4 Mawrth i gyflwyno canfyddiadau allweddol yr adroddiad ac i drin a thrafod potensial datblygiadau democrataidd arloesol i wella iechyd democratiaeth Cymru.

Mae’r adroddiad yn rhan o raglen ehangach yr IWA ar ‘feithrin dealltwriaeth a chyfranogiad yn y drafodaeth barhaus am gyfansoddiad Cymru’, a gefnogir gan y Sefydliad Addysg Gyfreithiol.

Cewch wybod rhagor a chadw lle yn nigwyddiad y Sefydliad Materion Cymreig yma.


Share