Offeryn ar-lein newydd sy’n paru pleidleiswyr â’u plaid wleidyddol ddelfrydol


Colourful illustration depicting 10 Downing Street, Big Ben, ballot paper and polling station sign. Also includes graphs and outline map of UK.

Yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol, roedd gwybodaeth wleidyddol yn dod o bob cyfeiriad, ac roedd hyn yn achosi i lawer o bobl deimlo’n ddryslyd ynglŷn â pha bleidiau oedd yn cydweddu orau â’u barn hwy. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, mae prosiect sy’n cael ei gyd-arwain gan Brifysgol Abertawe ac yn cael ei noddi gan WISERD wedi creu offeryn pleidleisio ar-lein newydd.

Mae WhoGetsMyVote yn caniatáu i bleidleiswyr weld sut mae eu safbwyntiau hwy ar faterion polisi allweddol yn cydweddu â safbwyntiau’r pleidiau gwleidyddol. Gofynnir i bleidleiswyr ddweud i ba raddau y maent yn cytuno â chyfres o ddatganiadau polisi. Yna mae delweddau graffigol yn datgelu pa mor agos y maent at safbwyntiau’r pleidiau gwleidyddol yn gyffredinol ac ar bob mater unigol. Defnyddiwyd y safle gan dros 170,000 o bleidleiswyr ledled y DU yn ystod yr ymgyrch.

Mae’r prosiect yn enghraifft o ymchwil o’r radd flaenaf sy’n cael ei alluogi gan Rwydwaith Ymchwil i Wleidyddiaeth a Llywodraethiant WISERD. Mae hefyd yn cael ei gefnogi gan Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ac Ymarfer Prifysgol Abertawe.

Yn fuan ar ôl galw’r etholiad, ymunodd academyddion, ymchwilwyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr PhD o Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Abertawe â phartneriaid o bob cwr o’r DU i ddatblygu’r cwestiynau a ddefnyddiwyd i baru pleidleiswyr a phleidiau, gan ymchwilio’n helaeth i bolisïau pob plaid a’u codio.

Mae prosiect Who Gets My Vote 2024 yn parhau â gwaith Dr Matthew Wall, cyd-gyfarwyddwr WISERD ac arweinydd tîm y prosiect yn Abertawe, drwy ddefnyddio technolegau digidol i rymuso pleidleiswyr a gwella democratiaeth. Mae tîm Abertawe hefyd yn cynnwys Dr Louis Bromfield, ymchwilydd ôl-ddoethurol WISERD, a myfyrwyr PhD, sef Keiron Burgess, Danielle Joyce a Megan Salter, sy’n aelodau o Rwydwaith Ymchwil i Wleidyddiaeth a Llywodraethiant WISERD.

Dywedodd Dr Wall, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth, a Chysylltiadau Rhyngwladol a chyd-gyfarwyddwr WISERD: “Mae gwefannau paru pleidleiswyr bellach wedi eu sefydlu fel rhan bwysig o ymgyrchoedd etholiadau ledled y byd. Gellir defnyddio’r gwefannau gorau, megis WhoGetsMyVote, am ddim ac maent wedi’u cynhyrchu gan arbenigwyr academaidd er budd y cyhoedd. Maent yn rhoi gwybodaeth amhleidiol, sy’n seiliedig ar ymchwil drylwyr, i ddangos i bleidleiswyr sut mae eu safbwyntiau’n cydweddu â pholisïau pleidiau.”

Ychwanegodd Dr Micha Germann, o Brifysgol Caerfaddon: “Mae ymchwil yn dangos bod llawer o bleidleiswyr nad ydynt yn hollol ymwybodol o safbwyntiau pleidiau gwleidyddol ar faterion amrywiol, ac mae’r holl negeseuon gwleidyddol yn ychwanegu at y dryswch. Mae WhoGetsMyVote yn torri drwy’r wybodaeth ddiangen, gan eich helpu i adnabod y pleidiau sy’n cydweddu orau â’ch barn yn gyflym.”

Roedd fersiynau blaenorol o WhoGetsMyVote ar gael yn ystod Etholiadau Cyffredinol 2015, 2017 a 2019 ac yn etholiadau Ewropeaidd 2014 a 2019. Mae’r offeryn wedi’i ddefnyddio gan dros 500,000 o bleidleiswyr.

Mae tystiolaeth y gallai offer fel WhoGetsMyVote, a elwir yn Rhaglenni Cyngor Pleidleisio (VAA), helpu i gynyddu nifer y pleidleiswyr, yn enwedig pleidleiswyr iau. Mae tystiolaeth gref hefyd bod rhaglenni o’r fath yn effeithio ar fwriadau pleidleisio pobl.

Dywedodd Dr Iulia Cioroianu o Brifysgol Caerfaddon: “Mae WhoGetsMyVote yn casglu llawer o ‘ddata mawr’ ar yr hyn y mae’r defnyddwyr yn ei feddwl am faterion allweddol etholiadau, eu bwriadau pleidleisio presennol a’u harferion pleidleisio yn y gorffennol. Dyma adnodd gwych i ymchwilwyr sydd am weld pa mor dda y mae’r prif bleidiau yn cyfleu eu negeseuon i wahanol grwpiau o bleidleiswyr wrth i ymgyrch yr etholiad fynd rhagddi.”

Mae WhoGetsMyVote yn brosiect nid-er-elw nad yw’n gysylltiedig â phlaid neu sefydliad gwleidyddol, ac mae’n cynrychioli consortiwm amrywiol o arbenigwyr gwleidyddol blaenllaw o brifysgolion a chanolfannau ymchwil amrywiol ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Arweinir y prosiect gan Dr Jon Wheatley (Prifysgol Oxford Brookes), Dr Micha Germann a Dr Iulia Cioroianu (Prifysgol Caerfaddon), a Dr Matthew Wall (Prifysgol Abertawe a WISERD).

Mae’r Grŵp Ymchwil yn perthyn i brifysgolion cyhoeddus ac mae’n cynnwys y canlynol: Dr Matthew Wall (Prifysgol Abertawe), Dr Jon Wheatley (Prifysgol Oxford Brookes), Dr Micha Germann (Prifysgol Caerfaddon), Dr Iulia Cioroianu (Prifysgol Caerfaddon), Dr Roula Nezi (Prifysgol Surrey), Yr Athro Susan Banducci (Prifysgol Caerwysg), Yr Athro Ailsa Henderson (Prifysgol Caeredin), Dr Fraser McMillan (Prifysgol Caeredin), Dr Ed Poole (Prifysgol Caerdydd), Yr Athro Richard Wyn Jones (Prifysgol Caerdydd), Dr Fernando Mendez (Prifysgol Zurich), Dr Vasiliki Triga (Prifysgol Technoleg Cyprus) a Dr Costas Djouvas (Prifysgol Technoleg Cyprus).

 

Credyd delwedd: smartboy10 trwy iStock.


Rhannu