Llyfr WISERD newydd: Civil Society Activism and Animal Welfare Rights


Civil Society Activism and Animal Welfare Rights - book coverCyhoeddwyd llyfr newydd gan yr Athro Paul Chaney a’r Athro Sarbeswar Sahoo ar 26 Medi gan Policy Press, sef un o argraffnodau Gwasg Prifysgol Bryste. Mae Civil Society Activism and Animal Welfare Rights yn cynnig dadansoddiad manwl ac amserol o’r sefyllfa o ran hawliau anifeiliaid a sut mae hyn yn cael ei lywodraethu.

Mae’r llyfr newydd yn dadlau, er gwaethaf y cynnydd mewn cydnabyddiaeth gyfreithlon o hawliau anifeiliaid, mae’r polisïau’n parhau i fod yn anghyson. Hyd yma, nid yw dylanwad y gymdeithas sifil ar sut mae’r hawliau hyn yn cael eu llywodraethu wedi cael ei ystyried yn fanwl. Mae Civil Society Activism and Animal Welfare Rights yn cynnig gwybodaeth empirig a damcaniaethol am sut mae grwpiau ymgyrchu yn dylanwadu ar bolisïau hawliau anifeiliaid yn y DU ac India.

Gan ddefnyddio ymchwil helaeth a chyfweliadau â sefydliadau lles anifeiliaid allweddol, mae’r llyfr hwn yn trin a thrafod yr heriau, y cynnydd a’r gobeithion ar gyfer y dyfodol o ran ymgyrchu cymdeithas sifil. Mae’n dangos sut mae hawliau a lles anifeiliaid wedi dod yn fwy amlwg mewn gwleidyddiaeth, wrth i bleidiau gwleidyddol addasu i gynnydd yn y gefnogaeth gan y cyhoedd.

Mae’r llyfr newydd yn trin a thrafod theori gymdeithasol sy’n gysylltiedig ag ymgyrchu cymdeithas sifil, llywodraethu a hawliau lles anifeiliaid; mae’n cynnig trosolwg byd-eang o bolisïau a chyfreithiau sy’n ymwneud â hawliau anifeiliaid, yn ystyried sut mae datganoli yn y DU wedi cael effaith ar hawliau anifeiliaid, ac yn cyflwyno astudiaeth achos fanwl a rhyngwladol ar ymdrechion y gymdeithas sifil i wella lles cŵn ar strydoedd India.

Dywedodd yr Athro Paul Chaney: “mae’r ymchwil ar gyfer y llyfr hwn yn seiliedig ar gyfweliadau manwl a helaeth gydag ymgyrchwyr y gymdeithas sifil. Un o’r negeseuon allweddol o’r cyfweliadau oedd yr effaith gadarnhaol mae datganoli yn y DU wedi’i gael. Soniodd y rhai a gafodd eu cyfweld am sut eu bod yn teimlo’n rhwystredig wrth geisio cael sylw San Steffan, a sut mae llywodraethau a seneddau Cymru a’r Alban wedi cyflwyno eu polisïau a’u cyfreithiau blaengar eu hunain ar hawliau lles anifeiliaid.”

Dywedodd yr Athro Sarbeswar Sahoo fod y llyfr newydd: “yn tynnu sylw at y prif heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n benderfynol o gefnogi lles anifeiliaid gan gynnwys ymdrechion y llywodraeth ehangach i atal y gymdeithas sifil, agweddau diwylliannol, ymwybyddiaeth gyhoeddus o faterion sy’n ymwneud â lles anifeiliaid ac effaith negyddol yr ymagwedd neo-ryddfrydol at dwf a datblygiad sy’n blaenoriaethu elw yn hytrach na chyfiawnder a diogelwch anifeiliaid.

Dyma’r cyhoeddiad diweddaraf yng nghyfres Cymdeithas Sifil a Newid Cymdeithasol WISERD gyda Policy Press. Mae’r gyfres hon yn cynnig safbwyntiau cymharol a rhyngddisgyblaethol ar natur cymdeithas sifil sy’n newid yn gyflym ar raddfeydd lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.

 

Adolygiad:

“Llyfr da sy’n cyfuno’n llwyddiannus ymchwil gynradd arloesol gyda myfyrdod athronyddol dwfn ar ryngweithio rhwng pobl ac anifeiliaid ac esblygiad polisïau lles anifeiliaid, gyda phwyslais penodol ar rôl sefydliadau datganoledig a’r gymdeithas sifil yn y DU ac India. Rwy’n ei argymell yn gryf.”

Alistair Cole, Sciences Po Lyon

 

Mae’r llyfr ar gael ar ffurf clawr caled, eLyfr neu Kindle, ac mae ar gael i’w brynu o wefan Policy Press. Gallwch chi gael gostyngiad arbennig o 50% os ddefnyddiwch chi’r cod: DSC50 erbyn 31 Rhagfyr 2025.


Rhannu