Mae’r monograff Cultural Cold Wars and UNESCO in the Twentieth Century gan W. John Morgan, un o Gymrodyr Emeritws Ymddiriedolaeth Leverhulme yn Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Prifysgol Caerdydd, ac Athro Emeritws ym Mhrifysgol Nottingham, wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Lyfr Wayne S. Vucinich 2025 yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd Gwobr Lyfr Wayne S. Vucinich ei sefydlu yn 1983, ac mae’n cael ei noddi gan y Gymdeithas Astudiaethau Slafonig, Dwyrain Ewropeaidd ac Ewrasiaidd (ASEEES) a Chanolfan Prifysgol Stanford ar gyfer Astudiaethau Rwsiaidd, Dwyrain Ewropeaidd ac Ewrasiaidd.
Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu bob blwyddyn am y cyfraniad pwysicaf i astudiaethau Rwsiaidd, Ewrasiaidd a Dwyrain Ewropeaidd yn unrhyw un o ddisgyblaethau’r dyniaethau neu’r gwyddorau cymdeithasol a gyhoeddwyd yn Saesneg yn yr Unol Daleithiau yn y flwyddyn galendr flaenorol.
Ar sail ymchwil wreiddiol ac adolygiad cynhwysfawr o’r llenyddiaeth yn Rwseg, yn Almaeneg ac yn Ffrangeg, mae Cultural Cold Wars and UNESCO in the Twentieth Century yn mynd i’r afael â’r diddordeb sylweddol erbyn hyn yn y cysyniad o ryfel oer diwylliannol yn ffordd o ddatblygu ideolegau ac yn olrhain datblygiad y cysyniad hwnnw yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Bydd enillydd Gwobr Lyfr Wayne S. Vucinich 2025 yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni. Yn y cyfamser, gallwch chi gael gafael ar gopi o’r monograff ar ffurf clawr caled neu e-lyfr ar wefan Routledge.