Mae WISERD ymhlith y naw canolfan bartner fydd yn parhau i weithio gyda’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil (NCRM), i gyflwyno cyfnod newydd o hyfforddiant arloesol a gweithgareddau cynyddu capasiti. Bydd y rhain yn ymwneud â defnyddio technegau a dulliau ymchwil creiddiol a blaengar.
Mae’r newyddion yn dilyn cyhoeddiad heddiw gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y byddant yn buddsoddi £2.8m yn y Ganolfan dros bum mlynedd tan 2024. Wrth symud ymlaen i mewn i gyfnod newydd, y prif nod fydd cynyddu gallu dulliau ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol a thu hwnt.
Meddai’r Athro Gary Higgs, cyd-gyfarwyddwr WISERD ac arweinydd hyfforddiant ac adeiladu capasiti: “Ers dros ddeng mlynedd, mae WISERD wedi bod yn cynorthwyo gyda chyflwyno cyrsiau NCRM. Edrychwn ymlaen at barhau â’n partneriaeth gyda’r Ganolfan ynghylch dadansoddi anghenion hyfforddiant, hwyluso a chyfrannu at gyrsiau i wyddonwyr cymdeithasol yng Nghymru. Rydym hefyd am ddatblygu hyfforddiant ar gyfer cynulleidfaoedd anacademaidd a sefydliadau cymdeithas sifil (CSOs) lle mae gan WISERD wybodaeth ac arbenigedd penodol.”
Gallwch ddarllen rhagor am hyn ar wefan ESRC, gan gynnwys gwybodaeth am alwadau sydd ar y gweill ar gyfer grantiau datblygu bach a phrosiectau ymchwil methodolegol sylweddol.
Cafodd y cwrs NCRM diweddaraf, ‘Quant for Qual’ ei gyflwyno’r wythnos hon yng Nghaerdydd.