Mae’r Athro Chris Taylor wedi’i benodi’n gyfarwyddwr academaidd newydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd. WISERD yw un o 10 canolfan ymchwil fydd yn adleoli i SPARK pan fydd yr adeilad newydd 12,000 metr sgwâr yn agor ei ddrysau yng ngwanwyn 2021.
Fel un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous ym maes gwyddorau cymdeithasol y DU – a pharc ymchwil cyntaf y byd i’r gwyddorau cymdeithasol – mae SPARK yn adeiladu ar y rhagoriaeth sydd wedi gwneud Prifysgol Caerdydd yn sefydliad blaenllaw ar gyfer ymchwil a arweinir gan wyddoniaeth gymdeithasol, gyda ffocws ar ymchwil arloesol sy’n cael effaith gymdeithasol drawsnewidiol. Caiff SPARK ei lleoli mewn cartref pwrpasol ar Gampws Arloesedd y Brifysgol ochr yn ochr â phartneriaid allanol o amrywiaeth o sectorau, a bydd yn ysgogi cysylltiadau rhwng endidau ymchwil mewn prifysgolion sy’n cael effaith.
Yn ogystal â datblygu’r fenter gyffrous hon, bydd Chris yn parhau i arwain nifer o brosiectau ymchwil yn WISERD, gan gynnwys Labordy Data Addysg WISERD, a gyllidir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r ESRC. Mae gan Chris hefyd becyn gwaith yng nghanolfan ymchwil Cymdeithas Sifil newydd yr ESRC a bydd yn cynnal cymhariaeth ryngwladol o ehangu sifil ymhlith plant a phobl ifanc. Mae’n ymwneud hefyd ag astudiaeth bedair blynedd ar draws y DU a gyllidir gan ESRC ar waharddiadau ysgol, gyda phrifysgolion Rhydychen, Caeredin, a Queens Belffast.
Mae Chris wedi arwain nifer o werthusiadau annibynnol pwysig a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ar y Cyfnod Sylfaen a’r Grant Datblygu Disgyblion. Mae wedi cydweithio’n agos gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar ehangu mynediad at Addysg Uwch a datblygiadau strategol mewn ymchwil addysg yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD.
Mae Chris yn ymwneud ag ymchwil ryngddisgyblaethol a dulliau cymysg, gan gyhoeddi’n helaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau. Yn 2017 cafodd ei gyfraniad i ymchwil addysgol yng Nghymru ei gydnabod gyda medal gyntaf Hugh Owen gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac fe’i gwnaed yn Gymrawd yn 2018.
Wrth ymgymryd â’i rôl ddiweddaraf, amlinellodd yr Athro Taylor y weledigaeth ar gyfer SPARK: “Rydym am greu amgylchedd ymchwil unigryw ac arloesol sy’n annog dulliau arloesol o ymdrin â’r nifer fawr o ‘broblemau dyrys’ sy’n ein hwynebu’n lleol, yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys y nod i gryfhau partneriaethau amlddisgyblaethol rhwng y gwyddorau cymdeithasol, ffisegol a biolegol ar draws y Brifysgol.”
Ychwanegodd: “Mae SPARK yn gydleoliad unigryw o sefydliadau amrywiol yn y sector preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector, gan gydweithio’n agos ag academyddion ar draws y Brifysgol, gan ein galluogi i wella dyluniad ein hymchwil er mwyn sicrhau ei bod yn cael yr effaith fwyaf ac yn cefnogi galluoedd ymchwil y sefydliadau eraill hyn.”
Dywed yr Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, am y penodiad: “Fe wnaethon ni chwilio am unigolyn eithriadol i roi arweiniad i SPARK ac mae Chris yn gwbl addas. Wrth wraidd SPARK mae’r syniadau o gyd-greu a chydweithio: pobl yn gweithio gyda’i gilydd ar draws disgyblaethau academaidd a chydag ymarferwyr ar draws sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector i fynd i’r afael â rhai o anghenion mwyaf taer cymdeithas. Fel Cyfarwyddwr academaidd, cylch gwaith Chris fydd cyflawni’r uchelgeisiau hyn – i gefnogi datblygiad ymchwil sy’n trawsnewid bywydau; sefydlu partneriaethau newydd rhwng y Brifysgol a sefydliadau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector sy’n bartneriaid yn y trawsnewidiad hwnnw; a sicrhau bod SPARK yn cysylltu’n gyffrous ag ymchwil, addysgu a phrofiad y myfyriwr ar draws y brifysgol.”
Bydd SPARK a’i gweithgarwch yn ganolog i Gampws Arloesi Prifysgol Caerdydd gwerth £300m, ynghyd â chlystyrau ymchwil sy’n arwain y byd mewn niwrowyddoniaeth, lled-ddargludyddion cyfansawdd, iechyd meddwl a chatalysis. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan SPARK.