Penodwyd yr Athro John Morgan i fyrddau golygyddol cyfnodolion academaidd Rwseg


RUDN building

Mae’r Athro John Morgan wedi’i benodi’n aelod o fyrddau golygyddol dau gyfnodolyn academaidd blaenllaw yn Rwsia. Mae’n ymuno â Sotsiologicheskie Issledovaniia (Astudiaethau Cymdeithasegol), cyfnodolyn y Sefydliad Cymdeithaseg, Academi Gwyddorau Rwsia, a Filosofi Zhurnal (Journal of Philosophy), sy’n cael ei gyhoeddi gan RUDN- Prifysgol Cyfeillgarwch Pobl Rwsia (RUDN-Russia People’s Friendship University).

Yn gynharach eleni cyhoeddodd yr Athro Morgan Y Gymdeithas Sifil, Newid Cymdeithasol, ac Addysg Boblogaidd Newydd yn Rwsia (gydag Irina N. Trofimova a Grigori A. Kliucharev) (Routledge, 2019). Mae ei lyfr (gydag Alex Guilherme) Philosophy, Dialogue, and Education: Nine Modern European Philosophers (Routledge, 2018) yn cynnwys penodau ar y Rwsiaid Mikhail Bakhtin a Lev Vygotsky. Bydd yn cael ei gyhoeddi mewn clawr meddal ym mis Awst.


Rhannu