Mae’r Athro W. John Morgan, Cymrawd Emeritws Leverhulme, yn WISERD, wedi’i ethol yn Athro Anrhydeddus, Ysgol Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Iorddonen. Mae hyni gydnabod ei gyfraniad at addysg gymharol a rhyngwladol a datblygiad cymdeithasol.
Ymhlith ei benodiadau niferus, mae’r Athro Morgan wedi bod yn Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer UNESCO; aelod o Bwyllgor Llywio Rhaglen PEACE UNESCO ar gyfer Palestina; a Chomisiynydd Ysgoloriaethau’r Gymanwlad ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Credyd delwedd: Malkawi99, CC BY-SA 3.0, drwy Wikimedia Commons.