Y cyhoedd yn galw am ddiwygio democrataidd


Cynhaliwyd Darlith Flynyddol y Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth i drafod y gobaith o ddiwygio democrataidd yn y Deyrnas Unedig.

Traddodwyd y ddarlith gan yr academydd blaenllaw, yr Athro Alan Renwick, Dirprwy Gyfarwyddwr Uned y Cyfansoddiad yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ar y testun “Do the UK Public want Democratic Reform?”.

Roedd canfyddiadau ymchwil yr Athro Renwick yn argyhoeddiadol ac yn datgelu ymdeimlad dwfn o anfodlonrwydd ymhlith y cyhoedd ym Mhrydain ynghylch cyflwr gwleidyddiaeth ddemocrataidd heddiw.

Dadleuodd fod y cyhoedd eisiau newid, ac amlygodd yr angen am ddiwygiadau a allai helpu i adfer hyder mewn democratiaeth ym Mhrydain.

Rhoddodd y ddarlith ysgogiad i’r meddwl a chyfle i’r rhai a oedd yn bresennol i fod yn rhan o drafodaethau ynghylch diwygio gwleidyddol, a democratiaeth Prydain yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd y newyddion yn wreiddiol ar wefan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.


Share