Rhwng 8 a 11 Gorffennaf 2025, cynhaliodd Rhwydwaith Ymchwil Gwleidyddiaeth a Llywodraethu WISERD gwrs Bŵtcamp Dulliau Meintiol ym Mhrifysgol Abertawe.
Cafodd y cwrs dwys hwn ei arwain gan Dr Kevin Fahey, Athro Gwleidyddiaeth Cynorthwyol ym Mhrifysgol Nottingham, ac roedd yn cynnwys darlithoedd, arddangosiadau ymarferol, sesiynau ymarfer a gwaith grŵp. Y nod oedd rhoi hyfforddiant hanfodol ar hanfodion dulliau meintiol i ymchwilwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd a oedd am ddysgu neu ddatblygu eu sgiliau.
Yn ogystal â thrafod dulliau meintiol yn iaith, rhoddodd y cwrs gyflwyniad i R, Quarto a sut i ysgrifennu côd atgynyrchadwy. Trafodwyd hefyd nodiant, algebra, termau ystadegol allweddol, theorem terfan ganolog, profi rhagdybiaethau deunewidyn, modelau llinol a’u rhagdybiaethau, nodau dod i gasgliadau, modelu rhagfynegol, delweddu data a llawer mwy.
Cymerodd Dr Matthew Wall, cyd-Gyfarwyddwr WISERD ym Mhrifysgol Abertawe, ran yn y cwrs, a hynny’n ymchwilydd meintiol profiadol. Dywedodd: “Dangosodd y cwrs hwn sut all canolbwyntio ar ddulliau ymchwil ein galluogi i groesi ffiniau disgyblaethol. Daeth â hyfforddiant arloesol i ymchwilwyr ar gamau gwahanol yn eu gyrfaoedd ym meysydd gwyddor wleidyddol, addysg, cymdeithaseg, athroniaeth, economeg a throseddeg.
“Yn ogystal â meithrin ein dealltwriaeth sylfaenol o gasgliadau ystadegol, dysgon ni strategaethau a thechnegau pwerus ar gyfer dadansoddi a delweddu data ymchwil gymdeithasol. Roedd yn gyfle gwych i bawb uwchsgilio, ehangu eu rhwydweithiau ymchwil a chreu cyfleoedd i gydweithio ar ymchwil a all gyfrannu at newid cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt drwy ddylanwadu ar sut mae ymarfer a pholisïau’n cael eu datblygu.”
Dywedodd Louis Bromfield, ymchwilydd ôl-ddoethurol yn WISERD, a wnaeth hefyd gymryd rhan yn y cwrs a helpu i drefnu’r digwyddiad: “Roedd y cwrs, a gafodd ei gyflwyno gan Dr Fahey, yn ddwys ond yn ddifyr iawn o’r dechrau i’r diwedd. Cafodd pawb wybod am wahanol dechnegau a dulliau meintiol, gan gynnwys y fathemateg sylfaenol, ond dysgon nhw hefyd sut i siarad dulliau meintiol yn iaith, sut i ddelweddu ac arddangos canfyddiadau a beth i chwilio amdano wrth ddarllen papurau meintiol.
“Rydyn ni’n ddiolchgar am adborth amhrisiadwy’r rhai a gymerodd ran, a fydd yn ein helpu i wella gweithgarwch ein rhwydweithiau yn y dyfodol.”
Mae rhagor o wybodaeth am ein rhwydweithiau a digwyddiadau eraill WISERD ar ein gwefan.